Parc Bryn Bach

Mae Parc Bryn Bach mewn lleoliad cyfleus, yn agos iawn at yr A465, yng nghanol Tredegar yn ne ddwyrain Cymru. Yn warchodfa natur leol, mae gan y parc 340 erw o laswelltir a choetir godidog yn cynnwys llyn 36-erw.

Mae’r parc yn cynnig croeso cynnes a digonedd o weithgareddau awyr agored ar gyfer pob oedran a gallu, yn cynnwys go-cartio, mini golff, mur dringo a chyfleusterau ogofa gwneud, llawer o gampau dŵr a gweithgareddau golff ac ardal chwarae wych i blant.

Mae’r caffi yn cynnig snaciau a diodydd twym ac oer, ac mae’r parc yn lleoliad perffaith i ymlacio, cael hwyl, mynd am dro o amgylch y llyn neu roi cynnig ar un o’n gweithgareddau antur cyffrous.

Mae Gweithle Llesiant newydd yn cael ei ddatblygu lle gallwch eistedd a mwynhau’r olygfa o’r llyn pan ewch ar-lein a gweithio gan fwynhau’r heddwch a’r tawelwch

http://parcbrynbach.co.uk/

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk