Unwaith yn fferm gyda dolydd a hen bwll glo, y warchodfa leol hon yw bellach y goedwig ffawydd uchaf a mwyaf gorllewinol ym Mhrydain. Rheolir y warchodfa ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac mae rhan o’r warchodfa wedi cael ei ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).
Mae’r coetir hwn yn lle hudol i deuluoedd ymweld. Mae’r hen goed ffawydd yn darparu cefndir dramatig o ddail gwyrdd ffres yn y gwanwyn yn troi’n oren llachar yn yr hydref. Ym mis Mai mae’r coed yn llawn clychau’r gog, gyda’r heddwch yn cael ei darfu gan adar yn trydar a’r nant wrth iddi ymdroelli trwy’r coed, dros gerrig ac o dan bontydd.
Gwybodaeth Gyswllt
Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk