Os yw wedi bod yn sbel ers i chi ymweld â cymoedd, mae’n hen bryd am ymweliad arall. Mae’r unig tomennydd glo sy’n weddill yn safleoedd cadwraeth, mae ochr y bryniau yn wyrdd eto. Mae Blaenau Gwent yn cynnig cefn gwlad gwych i gerdded gyda llwybrau niferus yn dilyn hen ffyrdd tramiau a thraciau troellog yn syth i dop y mynyddoedd.
Mae rhai o’r hoff lwybrau yn rhai hwylus ar hyd hen ffyrdd tramiau yn dilyn olion troed gwneuthurwyr haearn o ganrifoedd yn ôl. Efallai byddai’n well gan y sawl mwy egnïol heic sionc i dop y cymoedd ble mae’r golygfeydd yn mynd â’ch anadl cymaint â’r cerdded. Dydych chi byth yn gwybod beth fyddwch yn ei weld o amgylch y gornel nesaf, o eglwys ganol oesol, crëir o’n hanes ddiwydiannol neu Warchodfa Natur heddychlon. Mae’r cymoedd yn llawn treftadaeth a harddwch, dewch i archwilio drosoch chi’ch.
Llwybrau Darganfod
5 llwybr trefol yn archwilio treftadaeth gyfoethog trefi Abertyleri, Blaina, Glynebwy, Nantyglo a Tredegar.
Llwybr Ebwy Fach
Llwybr 16 cilometr yw Llwybr Glynebwy sy’n pasio trwy 14 man gwyrdd cymunedol. Mae’r llwybr yn archwilio taith y dirwedd o’i wreiddiau amaethyddol, trwy difrodaeth diwydianeiddio yn ôl i dir gwyrdd hardd. Mae’r llwybr yn dilyn afon Ebwy Fach yn amlygu safleoedd treftadaeth a mannau pwysig i fywyd gwyllt, gan gymryd yr ymwelydd ar daith o ddysgu trwy’r cwm.
Dilyn olion troed y Gwneuthurwyr Haearn
7 taith gerdded ar hyd hen ffyrdd tramiau, wedi’u henwi ar ôl hen Haearnfeistri. Mae’r teithiau’n olrhain treftadaeth ddiwydiannol leol ac hefyd yn plethu treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol pob cymuned
Llwybr Nye Bevan
Taith gerdded ac mewn car o amgylch Tredegar yn cynnwys safleoedd sy’n gysylltiedig ag Aneurin Bevan, AS Llafur a phensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Teithiau Tyleri
9 taith gerdded o amgylch tirwedd tonnog Abertyleri yn cynnig golygfeydd anhygoel o’r cwm, gan gynnwys llên gwerin, chwedlau a hanes cloddio’r ardal.
Gwybodaeth Gyswllt
Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk