Trafnidiaeth Ysgol

Mae trafnidiaeth ar gyfer plant ysgol gynradd sy’n byw dwy filltir neu’n bellach (1.5 milltir ar gyfer y sawl sy’n iau nag 8) o’r ysgol addas agosaf am ddim.

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r polisi teithio i’r ysgol ar gyfer Cymru.

Darpariaeth trafnidiaeth am ddim

Mae trafnidiaeth am ddim yn gyffredinol yn gyfyngedig i ddisgyblion o oedran ysgol statudol sy’n mynychu ysgol yn eu dalgylch ac sy’n byw’r pellter angenrheidiol o’r ysgol. Mae’r pellteroedd a grybwyllir yn amodol i adolygiad hyd at y terfyn statudol. 

O dan 8 mlwydd oed – os yn byw dros 1.5 milltir o’r ysgol. (Terfyn statudol 2 filltir).

8 mlwydd oed ac yn hŷn – os yn byw dros 2 filltir o’r ysgol. (Terfyn statudol 3 milltir).

Mae pellterau’n cael eu mesur rhwng y llwybr cerdded byrraf o’r cartref i’r ysgol gan ddefnyddio System Mapio Ddigidol GPS fel a argymhellir gan Lywodraeth Cymru. Mewn rhai achosion, nid yw’n bosib trefnu i lwybrau cerbydau basio’n agos at gartref disgybl. Felly, efallai bydd yn bosib gwneud trefniadau iddynt gyrraedd pwynt casglu agosaf y cerbyd. Gwneir pob ymdrech i gadw’r pellter hwn mor fyr â phosib a ni ddylai fod yn hwy na un filltir.

Mae disgyblion sy’n mynychu’r ysgol wirfoddol a gynorthwyir ar hyn o bryd yn derbyn trafnidiaeth am ddim yn unol â’r uchod.  

Ysgol addas agosaf

Bydd trafnidiaeth yn cael ei ddarparu i’r ysgol addas agosaf, yn amodol ar derfynau pellter. Mae’r Cyngor yn pennu mai’r ysgol addas agosaf yw’r un sydd: 

  • Yn darparu addysg ar gyfer oedran perthnasol disgybl, ac sy’n agosach at gyfeiriad cartref y disgybl nag ysgol y dalgylch;
  • Yr ysgol agosaf i fodloni’r dewis iaith yn unol â pholisi’r Cyngor ar addysg cyfrwng Cymraeg;
  • Yr ysgol agosaf i fodloni’r dewis enwadol

 

 

Llwybrau peryglus/Mannau peryglus 

Gellir darparu trafnidiaeth am ddim ble mae’r Cyngor yn fodlon bod y llwybr rhwng y cartref a’r ysgol yn ddigon peryglus i gyfiawnhau darpariaeth o’r fath, er bod y pellter yn is na’r rhai a dyfynnwyd uchod. Wrth wneud hynny, bydd y Cyngor yn talu sylw i’r meini prawf yn Narpariaeth Statudol a Chyfarwyddyd Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru (Mehefin 2014) 

Trafnidiaeth i Ysgolion/Unedau Meithrin

Ni fyddai plant nad sydd o oedran ysgol statudol sy’n mynychu ysgol neu uned feithrin fel arfer yn gymwys i dderbyn trafnidiaeth am ddim.  

Seddi Sbâr

Mae’n bosib bydd disgyblion yn gallu cymryd seddi sbâr ar fysys ysgol am dymor byr er nad ydynt yn bodloni’r meini prawf a nodir uchod. Gellir bod yn gymwys er enghraifft os yw perthynas agos e.e. mam/tad yn ddifrifol sâl. Rhaid anfon llythyr doctor gyda phob cais ynghyd â llythyr yn amlinellu’r rhesymau dros y cais. Nid yw’r Cyngor yn codi tâl ar hyn o bryd am ddarparu trafnidiaeth mewn sefyllfaoedd o’r fath. Gellir tynnu consesiynau ar fyr rybudd.

Treuliau Eraill

Nid yw treuliau byddwch yn mynd iddynt wrth deithio i ac o’r ysgol yn cael eu had-dalu.

Symud Tŷ

Ni fydd disgyblion sy’n symud tŷ i gyfeiriad y tu allan i’r dalgylch fel arfer yn parhau i gael trafnidiaeth am ddim i’r ysgol honno os yw’r symud yn digwydd yn ystod blwyddyn 7, 8 neu 9 o addysg yn yr ysgol honno hyd yn oed os bodlonir y meini prawf a nodir uchod. Bydd ceisiadau ar gyfer disgyblion yn symud yn y bedwaredd flwyddyn neu ar ôl hynny yn cael eu hystyried dim ond os modd darparu trafnidiaeth trwy ddefnyddio tocyn tymor neu wasanaethau cyfredol.

Ysgolion Preifat

Ni ddarparir trafnidiaeth am ddim ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgolion preifat.
Dylai rhieni gyfeirio unrhyw bryderon neu ymholiadau am drafnidiaeth at yr ysgol neu’r Adran Addysg. Does gan y Cyngor dim cyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu trafnidiaeth am ddim i ddisgyblion nad sydd o oedran ysgol statudol.

Rhif cyswllt am drafnidiaeth ysgol 01495 355435.

 

Dysgu Ôl-16 

Hawl i Drafnidiaeth

Bydd pob myfyriwr sy’n byw ym Mlaenau Gwent yn cael tocyn bws gostyngedig neu grant teithio i Ardal Ddysgu Blaenau Gwent, Campws Glynebwy fel eu darparwr Ôl-16 dynodedig neu’r sefydliad agosaf ble mae eu cwrs ar gael yn dibynnu ar y meini prawf canlynol: 

 

  • rhaid i fyfyrwyr fod rhwng 16 ac 19 oed (o dan 19 cyn y 1af o Fedi pan mae’u cwrs yn cychwyn) i fod yn gymwys;
  • rhaid i fyfyrwyr fyw ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; a,
  • rhaid i fyfyrwyr fyw 2 filltir neu ymhellach (pellter cerdded agosaf) o’u hysgol neu gampws coleg agosaf a dylai’r myfyrwyr fynychu cwrs amser llawn sy’n gofyn eu bod yn bresennol am o leiaf 16 awr neu isafswm o 4 diwrnod yr wythnos yn y sefydliad. 

Nid yw myfyrwyr a disgyblion dros 19 oed ar gychwyn eu cwrs yn gymwys am gymorth teithio gan y Cyngor ac yn y sefyllfaoedd hyn fe’u cynghorir i gysylltu â’u coleg priodol am fanylion ar unrhyw ddarpariaeth trafnidiaeth sydd ar gael. 

Grant Teithio

Bydd y Cyngor yn darparu cymorth teithio i’r sawl sy’n bodloni’r meini prawf hyd at uchafswm o £150 fesul sesiwn academaidd. Bydd hyn yn cael ei dalu fel a ganlyn: £50 Hydref, £50 Gwanwyn a £50 Haf. 

 

Cerdyn Bws Gostyngedig – Coleg Gwent

Ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n mynychu Coleg Gwent, mae gan y myfyriwr opsiwn i gael tocyn bws gostyngedig i deithio ar fysys Stagecoach i ac o’u sefydliad agosaf ble mae’r cwrs ar gael. Mae’r Cyngor, ar ran y dysgwr, yn talu cyfraniad tuag at brynu tocyn bws gostyngedig yn uniongyrchol i Goleg Gwent, sy’n gweinyddu’r cynllun.

O dan y trefniadau, bydd gofyn i fyfyrwyr gyfrannu £50 y tymor tuag at y gost o docyn bws gostyngedig a bydd y Cyngor yn talu’r arian hwn yn uniongyrchol i Goleg Gwent. Mae lefel y grant teithio a ddarparir gan y Cyngor yn cael ei adolygu’n flynyddol ac felly mae’n amodol i newid. 

Mae myfyrwyr Coleg Gwent yn gallu defnyddio’u cardiau bws gostyngedig i deithio am bris rhatach rhwng 7am a 7pm dydd Llun – dydd Gwener, gyda cherdyn hwyr ychwanegol ar gael o’r coleg i fyfyrwyr sydd angen teithio ar ôl 7pm (Dydd Llun – Dydd Iau). Yn ystod y tymor yn unig. Os oes angen i chi newid bysys yn ystod eich taith, yna dylid cadw’r tocyn brynoch chi ar y bws cyntaf. Bydd y tocyn hwn yn ddilys ar gyfer teithio am ddim ar unrhyw daith ddilynol sy’n cychwyn o fewn 90 munud o gyhoeddi’r tocyn pan fyddwch yn ei ddangos i’r gyrrwr.

Ar draws yr holl ddarpariaeth Trafnidiaeth o’r Cartref i’r Ysgol a dysgu ôl-16, mae’r Cyngor yn gweithredu Cod Ymarfer ar gyfer disgyblion, myfyrwyr, rhieni, ysgolion a gweithredwyr trafnidiaeth. Mae hwn ar gael o’r Cyngor.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:  01495 311556 neu e-bostiwch: hometoschooltransport@blaenau-gwent.gov.uk