Beth yw’r Gwasanaeth Ieuenctid?
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad i bobl ifanc 11-25 oed. Rydym yn dîm o weithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn cymunedau ac ysgolion ar draws Blaenau Gwent i gynnig cefnogaeth i bobl ifanc.
Wrth fynd ati, ein nod yw trin pobl ifanc â pharch, gan barchu eu hawliau i wneud eu penderfyniadau eu hunain a gweithio gyda nhw i’w helpu i aros yn ddiogel. Rydym yn gweithio yn yr ysgolion a thu allan, gan gynnig cefnogaeth, ffordd wahanol o ddysgu, a chyfle i gael hwyl a chymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau.
Y Prosiectau
- Cwnsela mewn ysgolion i bobl ifanc 11-18 oed.
- Tîm o weithwyr ieuenctid cymwys yn ymgysylltu â phobl ifanc yn eu cymunedau lleol.
- Rhaglen Dug Caeredin, sy’n enwog yn genedlaethol ac sy’n cael ei chydnabod yn fawr ledled y DU.
- Gweithwyr Ieuenctid cwbl gymwys gyda'r nod o wella presenoldeb, cyrhaeddiad, ymddygiad a lles pobl ifanc ar draws Blaenau Gwent. Rhoi llais i bobl ifanc a darparu cefnogaeth a chyfleoedd ym mhob cornel.
- Helpu pobl ifanc 16-24 oed ym Mlaenau Gwent i sefydlu a chynnal lleoliad mewn dysgu pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
- Mae tîm Dyfodol Cadarnhaol yn gweithio ar sail grŵp ac un-i-un i helpu i addysgu pobl ifanc ar faterion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, trosedd, a phynciau perthnasol eraill.
- Yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael mynediad at ystod eang o hyfforddiant ac ennill cymwysterau ac achrediadau.
- Cyfeirlyfr cymorth i bobl ifanc.
- Rhestr a chysylltiadau ar gyfer y pedwar gwasanaeth clwb ieuenctid ym Mlaenau Gwent.
- Yn rhoi cymorth, arweiniad a gwybodaeth i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent.