Gweithgareddau Haf 2026

Clwb Chwarae Gemau Fideo

Ar agor i bob person ifanc rhwng 11 ac 16 oed 

Canolfan Ieuenctid Abertyleri

Dewch ymlaen! Neidiwch i mewn i FIFA, Fortnite, Minecraft a mwy – chwaraewch, cystadlwch a chodwch trwy’r lefelau.

Dydd Llun, 4 – 5pm

  • 10 Awst

Clybiau Ieuenctid 6 – 8pm

Ar agor i bob person ifanc rhwng 11 ac 16 oed

Amrywiol ledled Blaenau Gwent

Chwaraeon, gemau fideo, celfyddydau, coginio, sesiynau hamddenol, a llawer mwy i gymryd rhan ynddo. Cewch gwrdd â phobl newydd, rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol, a darganfyddwch beth sy’n digwydd yn eich ardal chi. Staff cyfeillgar wrth law i roi cymorth a chyngor os oes ei angen arnoch.

Abertyleri

  • Dydd Llun 17 Awst

Brynmawr – Tabor

  • Dydd Llun 10 Awst 
  • Dydd Llun 17 Awst

Rasa

  • Dydd Mawrth 11 Awst 
  • Dydd Mawrth 18 Awst 

Cwm

  • Dydd Mercher 5 Awst
  • Dydd Llun 17 Awst

Tredegar – Stockton 

  • Dydd Iau 6 Awst
  • Dydd Iau 13 Awst
  • Dydd Iau 20 Awst

Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig

Ar agor i bob person ifanc rhwng 11 ac 16 oed

Amrywiol ledled 6 – 9pm

Bydd ein tîm gwaith ieuenctid datgysylltiedig cymwys allan yn y gymuned yn ymgysylltu â phobl ifanc yn eu mannau eu hunain. Bydd gweithgareddau a phrosiectau’n cael eu llunio o amgylch diddordebau pobl ifanc, ochr yn ochr â chyngor, arweiniad a chefnogaeth, gyda chyfeirio ac atgyfeiriadau lle bo angen, gan helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gadarnhaol.

Edrychwch ar ein tudalen Facebook i weld ble byddwn ni:
https://www.facebook.com/BG.Youth.Service/?locale=en_GB

Abertyleri

  • Bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener, 6 – 9pm
  • Bob dydd Mercher, Parc Lles – Bryn-mawr, 6 – 9pm
  • Bob dydd Gwener, Glynebwy, 6 – 9pm 

Paned a dal i fyny

Ar agor i bob person ifanc rhwng 16 a 25 oed

Mynediad Agored

Galwch heibio! Lle hamddenol gyda llawer yn digwydd, gan gynnwys gemau fideo, coginio, sesiynau sgiliau, gweithdai seiliedig ar broblemau ac ati. Mae cymorth gan weithwyr ieuenctid hefyd, p’un a ydych chi eisiau help gydag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, neu ddim ond rhywun i siarad ag ef. 

Dim pwysau, dim barn – dim ond lle diogel i dreulio amser, cymryd rhan, a bod yn chi'ch hun. 

Neuadd Sant Ioan, Tredegar, 6 – 8pm

Dydd Llun

  • 17 Awst

Canolfan Ieuenctid Abertyleri, 6 – 8pm 

Dydd Mawrth

  • 11 Awst
  • 18 Awst

Croeso Dydd Mercher

Canolfan Ieuenctid Abertyleri

Ar agor i bob person ifanc rhwng 16 a 25 oed, gan gynnwys y rhai ym Mlwyddyn 11 sy’n gadael yr ysgol

Galwch heibio! Lle cynnes a hamddenol lle gallwch chi gael bwyd am ddim, cymryd seibiant, a chysylltu â phobl sydd wir eisiau eich helpu i symud ymlaen. P’un a ydych chi’n chwilio am gymorth gyda gwaith neu eisiau cyngor ar hyfforddiant, neu ddim ond eisiau rhywle clyd i dreulio amser, rydym ni yma i chi. Mewn partneriaeth â Choleg Gwent iTEC, Llamau, y Coleg Paratoi Milwrol, ACT a Gyrfa Cymru.

Bob dydd Mercher, 12 – 2pm

  • 5 Awst - Gyrfa Cymru a Llamau
  • 12 Awst – Gyrfa Cymru, Parth Dysgu Blaenau Gwent, MPTC a Busnes Cymru (Fan Byrgyrs Smash’d)
  • 19 Awst – Gyrfa Cymru ac iTEC

Iechyd a Llesiant

Canolfan Chwaraeon Glynebwy

Ar agor i bob person ifanc rhwng 16 a 25 oed

Yn chwilio am ffordd i hybu eich iechyd, eich llesiant a’ch hyder? Dewch draw i’n Grŵp Iechyd a Llesiant yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy bob dydd Iau. Byddwch yn cael mynediad am ddim i’r gampfa a’r ystafell iechyd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cefnogi eich lles corfforol a meddyliol, ac yn cysylltu ag eraill mewn lle hamddenol a chefnogol. Mae yna hefyd gyngor ac arweiniad ar addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli, ynghyd â mynediad at git chwaraeon am ddim os oes ei angen arnoch.

  • Bob dydd Iau 11am – 1pm

Rhowch gynnig arni

Ar agor i bob person ifanc rhwng 11 ac 16 oed

Dewch draw i’n diwrnodau ‘Rhowch gynnig arni’ ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed! Wedi’u cyflwyno mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau lleol, mae’r sesiynau hwyliog, ymarferol hyn yn gyfle i chi roi cynnig ar rywbeth gwahanol, dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, a chael chwerthin ar hyd y ffordd.

 

  • Dydd Iau 6 Awst – Rwlét hip-hop - Archeb Yma
  • Dydd Iau 13 Awst – Pysgota yn Llyn yr Ŵyl - Archeb Yma
  • Dydd Iau 20 Awst – Drop Zone Golf - Archeb Yma

Bydd digwyddiadau lle gellir cadw lle yn agor wythnos cyn cynnal y digwyddiad.

Academi Greadigol

Canolfan Gweithredu Dysgu Glynebwy

Ar agor i bob person ifanc rhwng 11 ac 16 oed

Bydd ein tîm gwaith ieuenctid datgysylltiedig yng Nghanolfan Gweithredu Dysgu Glynebwy i gyflwyno’r Academi Greadigol, prosiect dan arweiniad pobl ifanc sy’n rhoi cyfle i chi archwilio troelli, cyfansoddi caneuon, cynhyrchu fideos a mwy.

Chi sy’n llunio’r cyfan, felly mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd. Dewch â’ch syniadau, rhowch gynnig ar rywbeth newydd, a byddwch yn greadigol. Dewch i ddweud helô, cymerwch ran, a gwnewch y lle yn eiddo i chi.

Edrychwch ar ein tudalen Facebook i weld ble byddwn ni:
https://www.facebook.com/BG.Youth.Service/?locale=en_GB

  • Bob dydd Iau 6 – 8pm

KICKS

Canolfan Chwaraeon Glynebwy

Ar agor i bob person ifanc rhwng 11 ac 16 oed

Byddwch yn egnïol yr haf hwn gyda sesiynau pêl-droed ac ymgysylltu ieuenctid Premier League Kicks yn rhedeg yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy! Wedi’u cyflwyno mewn partneriaeth â Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

  • Bob dydd Gwener 4 – 6pm

Ieuenctid yn y Parc

Parciau amrywiol ledled Blaenau Gwent

Ar agor i bob person ifanc rhwng 11 ac 16 oed

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn partneru â Thîm Chwarae Blaenau Gwent i lansio ‘Ieuenctid yn y Parc’ drwy ddarparu cynnig i bobl ifanc hŷn (11–16), gan gynnwys chwaraeon, gemau fideo, disgo tawel a gweithgareddau creadigol, ochr yn ochr â chyfleoedd i gysylltu â gweithwyr ieuenctid a chael mynediad at gymorth, yn enwedig i’r rhai sy’n pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

  • Dydd Gwener 7 Awst, Parc Abertyleri, 2 – 4pm
  • Dydd Mawrth 11 Awst, Cwmcelyn, 10am – 12pm
  • Dydd Iau 13 Awst, Ffordd Sant Iago, Tredegar, 2 – 4pm
  • Dydd Mercher 19 Awst, Parc Lles Bryn-mawr, 2 –4pm
  • Dydd Iau 20 Awst, Garnlydan MUGA, 10am – 12pm 

Gweithdai Dydd Mercher

Canolfan Ieuenctid Abertyleri 2.30 – 4.30pm

Ar agor i bob person ifanc rhwng 11 ac 16 oed

Yn chwilio am ffordd hwyliog o fod yn greadigol, dysgu sgiliau newydd, a chwrdd â phobl newydd? Ymunwch â ni am amrywiaeth o weithdai ymarferol cyffrous
Byddwch yn greadigol gyda phrosiectau unigryw
Cewch gwrdd â phobl newydd a chael hwyl Rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar

P’un a ydych chi’n hoff o gelf, bwyd neu ddylunio, neu ddim ond eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, mae rhywbeth at ddant pawb. Nid oes angen profiad – dewch â chi’ch hun a’ch creadigrwydd!

Lleoedd cyfyngedig ar gael – archebwch i gadw’ch lle.

 

  • Dydd Mercher 5 Awst – Pizza Tân Coed - Archeb Yma
  • Dydd Mercher 12 Awst – Gwneud Crysau T - Archeb Yma
  • Dydd Mercher 19 Awst – Gwneud Gemwaith - Archeb Yma

Bydd digwyddiadau lle gellir cadw lle yn agor wythnos cyn cynnal y digwyddiad.

Diwrnod Chwarae

Parc Bedwellte, Tredegar

Pob oedran

Dathlwch Ddiwrnod Chwarae gyda Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent!

Paratowch am ddiwrnod llawn hwyl, chwerthin a chwarae yn Niwrnod Chwarae Blaenau Gwent!

Dewch draw i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, gemau ac adloniant cyffrous gyda ffrindiau a theulu. P’un a ydych chi’n hoffi bod yn egnïol, bod yn greadigol, neu ddim ond cael hwyl yn yr awyr agored, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.

Bydd tîm Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yno hefyd!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio, yn dweud helô, ac yn cael sgwrs gyda’n gweithwyr ieuenctid. Byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi, yn dweud wrthych am y cyfleoedd sydd ar gael trwy’r gwasanaeth ieuenctid, ac yn clywed am y pethau sy’n bwysig i chi.

Dewch i ymuno â’r hwyl, gwneud ffrindiau newydd, a dathlu pŵer chwarae!

Ar agor i blant, pobl ifanc a theuluoedd – edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

  • Dydd Mercher 5 Awst 10am – 3pm

Parti yn y Parc, Abertyleri

Ar agor i bob person ifanc rhwng 11 a 25 oed

Yn chwilio am rywbeth difyr i’w wneud yr haf hwn? Dewch draw i Barti yn y Parc, digwyddiad cymunedol gwych sy’n llawn cerddoriaeth, bwyd, gemau, gweithgareddau, a digon o gyfleoedd i dreulio amser gyda ffrindiau!

Wedi’i gyflwyno gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent a phartneriaid, diben y digwyddiad hwn yw dod â phobl ifanc ynghyd am ddiwrnod hwyliog, diogel a phleserus yn y parc. P’un a ydych chi eisiau cymryd rhan yn y gweithgareddau, cael rhywfaint o fwyd, gwrando ar y gerddoriaeth neu ymlacio gyda ffrindiau, mae rhywbeth at ddant pawb.

Bydd ein gweithwyr ieuenctid yno drwy gydol y digwyddiad hefyd os ydych chi eisiau sgwrs neu fod angen cyngor neu gymorth arnoch, neu os ydych chi eisiau gwybod mwy am yr hyn sydd gan y gwasanaeth ieuenctid i’w gynnig. 

Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am fanylion a diweddariadau am y digwyddiad: https://www.facebook.com/BG.Youth.Service/?locale=en_GB

  • Dydd Mercher 5 Awst 6 – 9pm

Sinema Brynmawr

Spiderman 3pm - 5pm

Mae’r sesiwn hon ar agor i bob person ifanc rhwng 12 a 25 oed

Ymunwch â ni am sesiwn sinema arbennig yn dangos Spiderman! Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch, a mwynhewch brynhawn ar y sgrin fawr gyda ffrindiau a phobl ifanc eraill o bob cwr o’r ardal. 
Lleoedd cyfyngedig i 100 o bobl ifanc ar sail y cyntaf i’r felin. Unwaith y bydd pob un o’r 100 lle wedi’u llenwi, ni fydd modd derbyn mwy, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

  • Dydd Iau 6 Awst 3 - 5pm