
Beth yw’r Gwasanaeth Ieuenctid?
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad i bobl ifanc 11-25 oed. Rydym yn dîm o weithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn cymunedau ac ysgolion ar draws Blaenau Gwent i gynnig cefnogaeth i bobl ifanc.
Wrth fynd ati, ein nod yw trin pobl ifanc â pharch, gan barchu eu hawliau i wneud eu penderfyniadau eu hunain a gweithio gyda nhw i’w helpu i aros yn ddiogel. Rydym yn gweithio yn yr ysgolion a thu allan, gan gynnig cefnogaeth, ffordd wahanol o ddysgu, a chyfle i gael hwyl a chymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau.
Y Prosiectau
Tîm Ieuenctid a Chymuned
- Gweithwyr Ieuenctid cwbl gymwys gyda'r nod o wella presenoldeb, cyrhaeddiad, ymddygiad a lles pobl ifanc ar draws Blaenau Gwent. Rhoi llais i bobl ifanc a darparu cefnogaeth a chyfleoedd ym mhob cornel.
- Helpu pobl ifanc 16-24 oed ym Mlaenau Gwent i sefydlu a chynnal lleoliad mewn dysgu pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
- Ymhlith y timau o fewn y Tîm Ieuenctid a Chymuned mae'r tîm Mynediad Agored, Tîm Iechyd a Llesiant, Tîm Digartrefedd, Tîm 16+, Tîm Seiliedig ar Ysgolion a Darpariaeth EOTAS.
Dyfodol Cadarnhaol
Ariennir y prosiect hwn gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent. Mae’n ymyriad a roddwyd ar waith i dargedu ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith pobl ifanc.
Mae tîm Dyfodol Cadarnhaol yn gweithio ar sail grŵp ac un-i-un i helpu i addysgu pobl ifanc ar faterion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, trosedd, a phynciau perthnasol eraill. Defnyddir dull amlasiantaeth i ddarparu’r gweithdai a chymorth gorau sydd ar gael i’r bobl ifanc.
Enw’r Tîm: Rachel Lawrence
Rhif Ffôn: 01495 355674
Cyfeiriad e-bost: Rachel.Lawrence@blaenau-gwent.gov.uk
Tim Ieuenctid datgysylltiedig
Mae gwaith ieuenctid datgysylltiedig yn ein galluogi i gwrdd ac ymgysylltu â phobl ifanc ar eu tir eu hunain yn y lleoedd ym Mlaenau Gwent maent yn ymgynnull ynddynt y tu allan i oriau ysgol. Gallai hyn fod ar y strydoedd, mewn caffis a pharciau, neu mewn gorsafoedd trenau a bysiau.
Ein nod:
- Helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial
- Gweithio fel eiriolwyr ar gyfer pobl ifanc
- Cynorthwyo pobl ifanc gydag unrhyw broblemau y gallent fod yn eu hwynebu
- Cynnig cyngor a chefnogaeth ar opsiynau ehangach o ran rhagolygon addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
Rydym hefyd yn trefnu amrywiaeth o weithdai, gweithgareddau a digwyddiadau hwyliog sy’n rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddynt.
Felly, os gwelwch ein timau ar y stryd – galwch heibio a dweud helô!
Hyfforddiant
Trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Coleg Cymunedol YMCA Cymru, Youth Cymru ac Agored Cymru, rydym yn gallu darparu’r cyrsiau canlynol:
Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o’r cyrsiau hyn, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Youth.Service@blaenau-gwent.gov.uk
Gwirfoddoli
“Eich helpu chi i helpu eraill”
P’un a hoffech chi gael profiadau newydd a fydd yn eich helpu i gael gwaith neu hyfforddiant, neu hoffech chi wneud gwahaniaeth a helpu yn eich cymuned, mae gwirfoddoli’n ffordd wych o ddefnyddio’ch amser sbâr.
Gall gwirfoddoli wneud y canlynol:
- Rhoi hwb i’ch hyder
- Eich helpu i ddysgu sgiliau newydd
- Eich galluogi i gael blas ar wahanol feysydd gwaith
- Ennill profiad gwerthfawr ar gyfer eich CV
- Gwneud rhywbeth gwerth chweil gyda’ch amser sbâr
- Gwneud ffrindiau newydd
- Cymryd rhan yn eich cymuned
Cwnsela
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn cydlynu tri gwasanaeth cwnsela i blant a phobl ifanc.
- Gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion i bobl infanc 11-16 oed sydd ar gael ym mhob Ysgol uwchradd ym Mlaneau Gwent
- Cwnsela yn y gymuned I bobl ifanc 11-25 oed
- Therapi chwarae I blant 7-11 oed
Gwybodaeth Gyswllt
Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'n gwasanaethau, cysylltwch â Youth.Service@blaenau-gwent.gov.uk