Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (gynt Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif)

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (gynt Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif)

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ymgynghori gydag aelodau o’r gymuned a rhanddeiliaid ar gynigion i ad-drefnu ysgolion yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion V2 (2018). Llywodraeth Cymru. I weld y rhestr lawn o ymgyngoreion a rhagor o wybodaeth ar y broses ymgynghori, ewch i Cod Trefniadaeth Ysgolion | LLYW.CYMRU

Mewn unrhyw ymgynghoriad, rhaid dilyn y canlynol: 

Asesiad Effaith ar y Gymuned

Dull strwythuredig yw hwn i'r Cyngor ddeall yn llawn y goblygiadau o’i benderfyniadau ac a ydynt yn niweidiol neu’n anffafriol i grwpiau neu adrannau penodol o’r gymuned. Mae’n helpu i sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau’n gadarn ac yn ystyried yr effeithiau posib ar ein cymunedau. Mae’r Cyngor yn anelu at hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer pob un o ddefnyddwyr ein gwasanaethau, gweithwyr a’r gymuned yn ehangach. Cliciwch ar y ddolen i weld yr asesiad effaith.  

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, pam a sut rydym yn ei wneud?

Mae gan y Cyngor ddyletswydd penodol yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) Rheoliadau 2011 i gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EQIA) ar bolisïau, dulliau gweithredu, swyddogaethau, cyflwyno gwasanaethau, arbedion ariannol a chynigion eraill. Mae cynnal yr asesiad hwn wedi ein galluogi i ystyried effaith penderfyniadau ar wahanol gymunedau, unigolion neu grwpiau sydd wedi’u diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Mae’n cynnwys rhagweld neu adnabod goblygiadau penderfyniadau ar unigolion neu grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaeth/gweithwyr, a sicrhau bod unrhyw effaith negyddol ar y nodweddion gwarchodedig (nodir isod) yn cael eu hadnabod ac yn sgil hynny’n cael eu lliniaru neu’u lleihau. Mae proses EQIA y Cyngor yn cynnwys y nodweddion gwarchodedig fel yr amlinellir gan y rhwymedigaethau cyfreithiol. Ystyrir mai’r nodweddion gwarchodedig yw: Hil, Anabledd, Rhyw, Oedran, Cyfeiriadedd Rhywiol, Crefydd a Chred, statws ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, a beichiogrwydd a mamolaeth fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, a hefyd yr iaith Gymraeg, fel yr amlinellir yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993.  

Wrth gynnal yr asesiad hwn mae tystiolaeth/data ystadegol, polisïau, deddfwriaeth a chyngor yn cael ei defnyddio/ceisio gan bartïon proffesiynol i'n galluogi i bennu’r effaith negyddol posib. Mae’r ddogfen ei hun yn un weithiol a fydd yn cael ei hadolygu yn rheolaidd ar wahanol adegau o’r cynnig.

Dweud eich dweud – sut i fynegi’ch barn: 

Ysgolion, Staff Addysgu, Llywodraethwyr a Disgyblion

Mae sesiynau ymgynghori’n cael eu trefnu ar gyfer yr ysgolion hynny wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan gynnig; a bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori.  

Rhieni/Aelodau’r Gymuned/Y Cyhoedd yn Gyffredinol

Yn ystod proses ymgynghori rydym eisiau clywed cymaint o safbwyntiau â phosib gan bartïon â diddordeb. Gallwch gysylltu ag un ohonom gan ddefnyddio un o’r dulliau isod (bydd pob un hefyd wedi’i amlinellu yn y ddogfen ymgynghori ar adeg yr ymgynghoriad):

  • mae croeso i chi gyflwyno unrhyw sylwadau, arsylwadau a/neu safbwyntiau mewn perthynas â chynigion yn ysgrifenedig at:
    Mrs Joanne Watts, Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes
  • e-bostiwch ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol:  21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk
  • neu drwy’r system post at  Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llys Einion, Heol yr Eglwys, Abertyleri, NP13 1DB;

Mae Blaenau Gwent fel arfer da yn trefnu dyddiau agored ymgynghori lle gallwch ofyn cwestiynau a mynegi eich barn.  

Beth sy’n Digwydd Nesaf?

Ar ddiwedd unrhyw ymgynghoriad, mae adroddiad yn cynnwys y safbwyntiau a fynegwyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Gweithrediaethy Cyngor ac yna mae penderfyniad yn cael ei wneud p’un ai :

  • barhau gyda’r cynnig;
  • gwneud newidiadau i'r cynnig; neu
  • peidio â pharhau o gwbl.

 

Os caiff penderfyniad ei wneud i barhau gyda’r cynnig, bydd cyfnod Hysbysiad Statudol o 28 niwrnod yn cael ei gytuno. I gael ei ystyried fel gwrthwynebiad statudol, rhaid cyflwyno gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig neu ar e-bost a’u hanfon i'r Cyngor o fewn 28 niwrnod o’r dyddiad cyflwynwyd y cynnig (bydd manylion am at bwy ac i le i anfon eich gwrthwynebiadau yn cael eu cynnwys yn yr Hysbysiad Statudol).

Bydd y Cyngor yn ystyried canlyniad yr Hysbysiad Statudol ac yn gwneud penderfyniad ar y cynnig. Os caiff gwrthwynebiadau eu gwneud, bydd y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad yn eu crynhoi ac ymateb y Cyngor iddynt. Bydd yr adroddiad hwn ar gael i bawb ei weld ar wefan y Cyngor a gellir cael copïau papur ar gais.

Os yw’r Cyngor yn cymeradwyo unrhyw gynnig, bydd llinell amser yn cael ei gytuno ar gyfer ei roi ar waith.

Os hoffech ragor o wybodaeth ar Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a/neu i weld dogfennaeth berthnasol, cyfeiriwch ar y ddogfen ganlynol: https://llyw.cymru/cod-trefniadaeth-ysgolion

 

Ymhlith yr ymgynghoriadau aildrefnu ysgolion diweddar sydd bellach wedi dod i ben mae: 

  • Cymuned Ddysgu 3-16 Abertyleri, i’w roi ar waith Medi 2016
  • Model Cyflwyno i Wella Darpariaeth a Gallu Adeiladau ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASD) i’w roi ar waith Medi 2016
  • Adroddiad Canfyddiadau Ymgynghoriad Ffurfiol ar Wella Darpariaeth a Meithrin Gallu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc gydag Anawsterau Cymdeithasol, 2018
  • Ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu capasiti ysgol Arbennig Pen y Cwm.

Ymgynghoriadau Cyfredol

Nid oes ymgyngoriadau ar y gweill ar hyn o bryd

Dogfennau Cysylltiedig

Cod Trefniadaeth Ysgolion V2 1018

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Tîm Trawsnewid Addysg

Swyddog Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

Rhif Ffôn: 01495 355470 /357704

Cyfeiriad: Llys Einion, Abertyleri Blaenau Gwent NP13 1DB

Cyfeiriad E-bost: 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk