Rhoi gwybod am newid gan landlord

Beth yw pwrpas y ffurflen hon

Defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrthym am newidiadau i'ch eiddo sy'n effeithio ar y Dreth Gyngor.

Mae angen i chi wneud hyn:

  • Os bydd tenant yn symud i mewn
  • Os bydd tenant yn symud allan
  • Os yw’r eiddo'n wag

Pam mae angen hyn arnom

Mae angen y manylion cywir arnom er mwyn i ni allu anfon y bil cywir. Os nad oes gennym y manylion cywir, efallai y byddwch yn talu'r swm anghywir.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

  • Eich enw a'ch manylion cyswllt
  • Cyfeiriad yr eiddo
  • Y dyddiad y digwyddodd y newid
  • Enw’r Tenant/Enwau’r Tenantiaid
  • Prawf o denantiaeth (fel cytundeb tenantiaeth)

Beth sy'n digwydd nesaf

  • Byddwn yn gwirio'r manylion
  • Byddwn yn diweddaru cofnodion y Dreth Gyngor
  • Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom