Pwy sy’n fyfyriwr?
Myfyriwr yw rhywun sy'n mynd yn llawn amser i ysgol, coleg, prifysgol, neu le arall sy'n darparu addysg.
I gael eich ystyried yn fyfyriwr at ddibenion y Dreth Gyngor, rhaid i'r cwrs:
- Bara am o leiaf 1 flwyddyn academaidd neu galendr
- Mynychu am o leiaf 24 wythnos ym mhob blwyddyn academaidd neu galendr
- Astudio am o leiaf 21 awr bob wythnos.
Pwy sy’n nyrs dan hyfforddiant?
Rydych chi'n nyrs dan hyfforddiant os ydych chi'n astudio cwrs a fydd yn caniatáu ichi ymuno â'r gofrestr nyrsio swyddogol. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau ar gyfer nyrsys a restrir yn rhannau 1 i 6 neu ran 8 o'r gofrestr.
Dim ond os dyma'ch tro cyntaf i ymuno â'r Gofrestr y gallwch chi gael gostyngiad.
Os ydych chi'n gwneud cwrs yn y brifysgol, byddwch chi'n cael eich cyfrif fel myfyriwr ar gyfer y Dreth Gyngor.
Cyn i chi wneud cais am ostyngiad, bydd angen
Tystysgrif sy'n dangos eich bod chi'n fyfyriwr. Gallwch gael hon gan y Swyddog Cofrestru yn eich coleg neu brifysgol.
