Gadewch i ni wybod

Rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda, os ydych yn credu bod masnachwr wedi torri deddfwriaeth Safonau Masnach. 

Gall Safonau Masnach ymchwilio i  weithgarwch troseddol amheus a gall weithredu yn erbyn gwerthwyr a masnachwyr sy’n torri’r gyfraith. Gallai’ch gwybodaeth helpu i rwystro trosedd rhag digwydd a gallai rwystro eraill rhag bod yn ddioddefwyr troseddau yn y dyfodol. 

Er enghraifft, rydych chi: 

  • wedi gweld tybaco, alcohol, tân gwyllt, paent chwistrellu neu gyllyll yn cael eu gwerthu i blant
  • wedi clywed bod pwysau wedi ei roi ar berson oedrannus neu fregus i brynu nwyddau neu dderbyn gwasanaethau diangen
  • yn gwybod lle mae cynhyrchion ffug yn cael eu gwerthu
  • wedi cael eich camarwain gan labelu neu ddangosfeydd prisio gwael
  • wedi talu mwy na’r pris a nodir ar y nwyddau
  • wedi prynu nwyddau neu deganau a allai fod yn beryglus
  • wedi prynu car â’r  cofnod milltiroedd yn ffug
  • wedi prynu nwyddau prin o ran pwysau neu fesur
  • wedi prynu bwyd neu ddiod wedi’u cam-ddisgrifio  ar label neu fwydlen
  • wedi prynu bwyd â’i oes wedi darfod, heb fod o ansawdd foddhaol neu heb gwrdd â lleiafswm y safonau cyfansoddol? 

Er mwyn rhoi gwybodaeth am fusnes/fasnachwr/neu unigolyn defnyddiwch, os gwelwch yn dda, dudalen hysbysu ar-lein Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Rhennir y wybodaeth gyda Safonau Masnach a fydd yn penderfynu a fydd angen unrhyw ymchwilio neu weithredu pellach ac efallai y cysylltir â chi am fwy o wybodaeth.  

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Safonau Masnach

Rhif Ffôn: 01495 369542

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad e-bost: trading.standards@blaenau-gwent.gov.uk