Llwybrau Graeanu y Gaeaf a Biniau Halen

Graeanu yn y Gaeaf

Blaenoriaeth y Cyngor yn ystod yr eira yw cadw’r prif ffyrdd yn agored ac yn glir i fodurwyr.  Mae halen yn cael ei roi ar 48% o’r ffyrdd yn yr ardal ymlaen llaw fel rhan o raglen cynnal a chadw y gaeaf.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Pob ffordd A a B
  • Safleoedd lleol o risg uchel a llwybrau mynediad pwysig (e.e. llwybrau bysiau, ger ysgolion, llwybrau at safleoedd gwasanaethau brys).

Mae manylion y llwybrau graeanu a’r aradr eira ynghyd â lleoliadau biniau graean ar gael yn y dogfennau isod.

NODWCH: I roi gwybod am ddigwyddiad ar Flaenau’r Cymoedd, cysylltwch ag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar 0300 1231213. Nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent sy’n gyfrifol am raeanu’r ffordd hon.

Beth rydym yn gallu gwneud

Gallwn ddarparu biniau graean a halen i drigolion a busnesau lleol eu defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus a llwybrau cerdded sydd ddim ar y ‘llwybrau graeanu’.


Ble fo’n bosib, rydym yn ceisio helpu mewn argyfwng, er enghraifft trwy wneud yn siŵr bod trigolion yn gallu cyrraedd apwyntiadau brys yn yr ysbyty (megis dialysis ac oncoleg).

Rydym hefyd yn trosglwyddo staff i ddyletswyddau clirio eira i helpu clirio eira yng nghanol trefi ac mewn mynwentydd a gwella mynediad at gartrefi gofal.

Yn ystod eira sy’n tarfu ar fywyd bob dydd, bydd pobl leol yn gallu cael gwybodaeth ar wasanaethau ac ysgolion sydd ar gau trwy wefan Blaenau Gwent.

Beth nad ydym yn gallu gwneud

Weithiau, er gwaethaf ein hymdrechion gorau i gadw’r prif lwybrau’n glir, mae’n amhosib cadw’r ffyrdd hyn yn gwbl glir o eira tra bod hi’n bwrw eira.  
 
Nid ydym yn gallu rhoi halen a chlirio pob un o’n ffyrdd oherwydd amser, felly’r flaenoriaeth yw cadw’r prif lwybrau ar agor.
  
Nid ydym yn trin llwybrau troed, heblaw am mewn amodau eira garw iawn, ble fyddwn yn helpu clirio llwybrau troed mewn canolfannau siopa.

Sut gallwch chi helpu

Rydym yn annog trigolion a busnesau lleol i ddefnyddio’r halen sydd ar gael mewn biniau graean ar lwybrau cerdded cyhoeddus a ffyrdd i rwystro rhewi. Mae lleoliadau’r biniau graean ar gael yn y rhestr o ddogfennau isod.

Does dim cyfraith yn eich stopio rhag clirio eira a rhew ar y palmant y tu allan i’ch cartref neu o fannau cyhoeddus. Mae’n annhebygol y byddwch yn cael eich erlyn neu’ch dal yn atebol yn gyfreithiol am unrhyw anafiadau ar y llwybr os ydych wedi’i glirio’n ofalus. Am ragor o gyfarwyddyd ar hyn, ewch i www.gov.uk  

Biniau Graean

Gellir dod o hyd i restr o leoliadau cyfredol Biniau Graean ledled Blaenau Gwent yn yr adran dogfennau perthnasol isod.

Llwybrau Graean

Mae’r dolenni canlynol yn mynd i Google Maps ble dangosir llwybrau graeanu’r Cyngor ar gyfer yr ardaloedd penodol:

Am fwy o wybodaeth ar amodau’r ffyrdd neu ffyrdd sydd ar gau:-

AA Road Watch - Ffôn:- 09068884322 neu ewch i: AA Roadwatch Gwybodaeth Traffig Cymru - Ffôn:- 08456026020 neu ewch i Traffig Cymru

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Cynnal a Chadw yn y Gaeaf
01495 311556
info@blaenau-gwent.gov.uk