Thornhill Close, Brynmawr

Gwentdeddf rheoleiddio traffig 1984

Gorchymyn gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio a chydgrynhoi (gwahardd a chyfyngu ar aros a llwytho a mannau parcio ar y stryd) 2019 (diwygiad rhif 12)

RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gwneud cynnig, yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati yma wedi hyn fel “y Ddeddf”), fel y’u diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, a Deddf Rheoleiddio Traffig 2004 (Deddf ‘2004’) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, i wneud y gorchymyn uchod a diwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd canlynol fel yr amlinellir isod ac yn yr atodlen.

• Mae’r cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygio Rhif 12, a fydd yn cael yr effaith gyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”) i sicrhau defnydd diogel ac effeithlon o’r rhwydwaith priffyrdd.

• Effaith y gorchymyn fydd cyflwyno dim aros rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 8am – 4pm, ar y rhan o’r ffordd a nodir ar restr mapiau U12A.

Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, sydd, ynghyd â chynllun yn dangos yr ardal gyfyngedig a datganiad o resymau’r cyngor dros gynnig gwneud y gorchymyn, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a byddant felly tan y dyddiad dod i ben o 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn.

Os dymunwch wrthwynebu’r gorchymyn arfaethedig, dylech anfon sail eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at y sawl sydd wedi llofnodi isod erbyn 6 Mehefin 2024.

Bydd angen i wrthwynebiadau fod drwy gyfrwng e-bost neu ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fel yr amlinellir isod. E-bost: BSEnvAndRegen@blaenaugwent. gov.uk neu ysgrifennwch at:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn Llys Einion, Stryd yr Eglwys, Abertyleri. NP13 1DB

DYDDIEDIG: 16 Mai, 2024

CLIVE ROGERS

Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

Dogfennau Cysylltiedig