Hysbysiad Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus 149, 150, 151, 152, Tredegar

Hysbysiad Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus 

DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990, ADRAN 257 A

PHARAGRAFF 7 O ATODLEN 14 

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL BLAENAU GWENT 

Llwybrau Troed Cyhoeddus Rhifau 149, 150, 151, 152, Tredegar 

 GORCHYMYN GWYRO LLWYBR CYHOEDDUS 2024 

Gwnaethpwyd y gorchymyn uchod ar 17 Hydref 2024.

Effaith y gorchymyn yw cau llwybr troed 149 a rhan o lwybr troed 150 sy’n rhedeg o Heol Scwrfa (Cyf CG 313790Dn, 210555G) i lwybr troed 150 (Cyf CG 313824Dn, 210538G), a gwyro rhan o lwybr troed cyhoeddus 151 a llwybr troed cyhoeddus 152 sy’n rhedeg o  bwynt (Cyf CG 313831Dn, 210551G) i (Cyf CG 313806Dn, 210534G) ar Heol Scwrfa, a chreu llwybr troed amgen o (Cyf CG 313831Dn, 210551G) i bwynt ar Heol Scwrfa (Cyf CG 313807Dn, 210531G), fel y dangosir ar fap y gorchymyn.

Gellir gweld copi o’r gorchymyn a map y gorchymyn yn rhad ac am ddim yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN, yn ystod oriau swyddfa arferol (dydd Llun i ddydd Gwener). Gellir cael copïau o’r gorchymyn a’r map ar gais neu drwy e-bostio rightsofway@blaenau-gwent.gov.uk

Gellir anfon unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i’r gorchymyn yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad e-bost uchod neu at Hywel Clatworthy, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN, i’w derbyn erbyn 29 Tachwedd 2024 fan bellaf. Nodwch ar ba sail y maent yn cael eu gwneud.

Dyddiedig 31 Hydref 2024

Kevin Kinsey

Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Seilwaith

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN

Dogfennau Cysylltiedig