A4048, Heol Newydd / Heol Casnewydd, Tredegar Terfyn Cyflymder 40 Mya a 50 Mya

Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (A4048, Heol Newydd / Heol Casnewydd,

Tredegar) (Terfyn Cyflymder 40 Mya a 50 Mya) 2026

Rhoddir Hysbysiad Drwy Hyn y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wrth arfer ei bwerau yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn bwrw ymlaen â’i fwriad I gyflwyno gorchmynion terfyn cyflymder o 40 mya a 50 mya fel y nodir yn yr atodlen i’r hysbysiad hwn, sef:

1. Gosod terfyn cyflymder o 50 mya drwy orchymyn ar hyd y ffordd a bennir yn Atodlen 1 i’r hysbysiad hwn.

2. Gosod terfyn cyflymder o 40 mya drwy orchymyn ar hyd y ffordd a bennir yn Atodlen 2 i’r hysbysiad hwn.

3. Gosod terfyn cyflymder o 50 mya drwy orchymyn ar hyd y ffordd a bennir yn Atodlen 3 i’r hysbysiad hwn.

4. Gosod terfyn cyflymder o 40 mya drwy orchymyn ar hyd y ffordd a bennir yn Atodlen 4 i’r hysbysiad hwn.

5. Gosod terfyn cyflymder o 50 mya drwy orchymyn ar hyd y ffordd a bennir yn Atodlen 5 i’r hysbysiad hwn.

Daw’r Gorchymyn Terfyn Cyflymder 40 mya a 50 mya i rym ar 23 Tachwedd 2026 neu ar y dyddiad y codir ac arddangosir yr arwyddion traffig neu’r marciau ffordd ar y safle a ragnodir gan y Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig, pa un bynnag sydd gynharaf, a bydd yn berthnasol i ffyrdd a enwir yn yr atodlen i’r hysbysiad hwn.

Mae’r gorchymyn a map sy’n dangos y ffyrdd yr effeithir arnynt ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

DYDDIEDIG: 17 MEDI 2026

Mark Thomas

Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaethau a’r Amgylchedd

Dogfennau Cysylltiedig