Sut i Bleidleisio

Cyn i chi allu pleidleisio, rhaid i’ch enw gael ei gynnwys ar y gofrestr etholiadol. 

Gallwch bleidleisio mewn sawl ffordd 

Pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio

Bydd cerdyn pleidleisio yn cael ei anfon atoch ychydig wythnosau cyn yr etholiad a fydd yn rhoi cyfeiriad eich gorsaf bleidleisio i chi. 

Yn yr orsaf bleidleisio bydd y Clerc yn gofyn i chi am eich enw a chyfeiriad. Yna byddwch yn cael papur pleidleisio a fydd yn dweud dros sawl ymgeisydd sydd angen i chi bleidleisio. Yn y bwth pleidleisio, rhowch groes (X) yn erbyn yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr o’ch dewis. 

Cynhelir etholiadau rhwng 7 a.m. a 10 p.m. fel arfer ar ddydd Iau. 

Gellir dod o hyd i daith rithwir o orsaf bleidleisio ar wefan yr Archifa Gwladol

Dod o hyd i My Gorsaf Bleidleisio

Pleidleisio drwy’r Post 

Cysylltwch â ni am ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post wedi’i chwblhau’n rhannol gyda’ch enw a chyfeiriad.  Ar y ffurflen hon, rhaid i chi gwblhau’ch dyddiad geni a llofnodi. Bydd y rhain yn cael eu gwirio pan rydych yn pleidleisio er mwyn atal twyll. 

Neu, fe allwch gwblhau cais i bleidleisio drwy’r post ar:  Y Comisiwn Etholiadol

Os ydych chi’n penderfynu pleidleisio drwy’r post, ni allwch newid eich meddwl nes ymlaen a phleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. 

Pleidleisio drwy Ddirprwy

Trwy wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, rydych yn apwyntio person arall i bleidleisio ar eich rhan naill ai yn yr orsaf bleidleisio neu drwy’r post. 

Cysylltwch â ni am ffurflen gais ar gyfer dirprwy. Rhaid i chi ddweud y rheswm pam wrthym. Er enghraifft 

  • Mae gennych anabledd corfforol. Os mai dyma’r rheswm, efallai bydd rhaid i chi gynnwys datganiad gan ddoctor, nyrs neu warden cartref bod hyn yn gywir 
  • Mae’ch gwaith yn eich cymryd i ffwrdd o’ch cartref, naill ai’n barhaol neu ar ddiwrnod yr etholiad. 
  • Byddwch ar wyliau ar ddiwrnod yr etholiad. 
  • Rydych wedi symud tŷ ers i chi gofrestru a does dim modd i chi fynd i’ch hen orsaf bleidleisio. 

Cymorth ychwanegol mewn gorsafoedd pleidleisio

Gwybodaeth am sut y gallwn helpu pleidleiswyr ag anableddau

Dylai pawb allu cofrestru a phleidleisio heb wynebu rhwystrau. Dylai fod yn gallu pleidleisio ar eu pen eu hunain ac yn gyfrinachol.

Nod canllawiau'r llywodraeth yw dileu unrhyw rwystrau i bleidleisio i bobl ag anableddau.

Gall staff lleoliadau pleidleisio gynnig cymorth i unrhyw un sydd ei angen i bleidleisio'n annibynnol.

Gallwn ddarparu offer priodol, megis dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol a phapurau pleidleisio print mawr.

Mae gan bob canolfan bleidleisio ardal breifat i wirio hunaniaeth unrhyw un sy'n gwisgo gorchudd wyneb am resymau crefyddol, meddygol neu unrhyw resymau eraill.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, gofynnwch i'n staff canolfan bleidleisio.

Fy mhleidlais, Fy Llais

Mae gan wefan 'My Vote My Voice' lawer o adnoddau ymarferol am bleidleisio hygyrch, ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistaidd. Mae'r wefan yn cynnwys:

  • gwybodaeth am sut mae'r Llywodraeth yn gweithio
  • canllaw cyflym i bleidleisio
  • papurau pleidleisio ymarferol
  • canllawiau hawdd eu darllen am ID Etholwr

Ewch i wefan My Vote My Voice website am fwy o wybodaeth.

Enw’r Tîm: Gwasanaethau Etholiadol

Rhif Ffôn:      01495 369706 / 369707

Cyfeiriad:  Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN

Cyfeiriad e-bost:   electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk