Etholiadau Senedd Cymru 2021

Cynhelir yr Etholiadau nesaf ar gyfer Senedd Cymru ddydd Iau 6 Mai 2021

Mae etholiadau ar gyfer Senedd Cymru yn cael eu cynnal bob pum mlynedd.

Mae 60 o Aelodau’r Senedd (ASau) etholedig ac mae pump ohonynt yn eich cynrychioli chi. Mae un AS yn cynrychioli eich etholaeth yn y Senedd (Blaenau Gwent) ac mae’r pedwar arall yn cynrychioli eich rhanbarth (Dwyrain De Cymru).

Mae Senedd Cymru yn cynrychioli pobl Cymru. Mae ganddi’r grym i wneud penderfyniadau yn y meysydd canlynol:
• amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig
• henebion ac adeiladau hanesyddol
• diwylliant
• datblygu economaidd
• addysg a hyfforddiant
• yr amgylchedd
• gwasanaethau tân ac achub
• iechyd a gwasanaethau iechyd
• priffyrdd a thrafnidiaeth
• tai
• llywodraeth leol
• gweinyddiaeth gyhoeddus
• lles cymdeithasol
• chwaraeon a hamdden
• twristiaeth
• cynllunio tref a gwlad
• dŵr ac amddiffynfeydd rhag llifogydd
• y Gymraeg

Gall Senedd Cymru ddeddfu yn y meysydd hyn a gelwir y cyfreithiau hynny yn Filiau’r Senedd. Mae’r cyfreithiau hyn yn unigryw i Gymru a byddant yn adlewyrchu anghenion a phryderon penodol pobl Cymru.

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig reolaeth dros rai gwasanaethau cyhoeddus a meysydd deddfwriaethol, megis cyfrifoldebau dros wasanaeth yr heddlu, nawdd cymdeithasol a chyflogaeth.

Pan fyddwch yn pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru, mae gennych ddwy bleidlais – un bleidlais i ethol aelod etholaethol ac un bleidlais i ethol eich aelod rhanbarthol.

Senedd Cymru – Etholaeth: Blaenau Gwent

Yn y bleidlais ranbarthol, rydych yn dewis yr ymgeisydd rydych am iddo/iddi eich cynrychioli’n uniongyrchol.

Mae’r Etholaeth hon yn dilyn ffiniau Sir Blaenau Gwent.

Senedd Cymru – Rhanbarth: Dwyrain De Cymru

Yn y bleidlais ranbarthol, rydych yn dewis o restr plaid neu ymgeiswyr annibynnol i gynrychioli eich rhanbarth h.y. nid ydych yn pleidleisio dros ymgeisydd unigol.

Mae Rhanbarth De Ddwyrain Cymru yn cynnwys yr Etholaethau dilynol:

Blaenau Gwent
Caerffili
Casnewydd Dwyrain
Casnewydd Gorllewin
Islwyn
Merthyr Tudful a Rhymni
Sir Fynwy
Torfaen
 

Cyngor Bwrdeistref Sirol yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer y rhanbarth – y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol.

Bydd pob awdurdod lleol yn cyfrif ei bleidleisiau ei hunan ac yn darparu’r canlyniadau hyn i Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Blaenau Gwaith. Pan fydd y canlyniadau i gyd wedi’u casglu, bydd y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol yn datgan pwy sydd wedi eu hethol ar gyfer Rhanbarth Dwyrain De Cymru a chyhoeddir y canlyniad ar y wefan hon. Bydd hyn yn digwydd ddydd Gwener, 7 Mai 2021.

Dogfennau Cysylltiedig

Cofrestru i bleidleisio

Gwybodaeth Am Ymgeiswyr Ac Asiantau

Gwybodaeth Cyswllt

Gwasanaethau Etholiadol

Rhif Ffôn:  01495 355086/88
Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy  NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost:   electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk