Mannau Gwefru Cerbydau Trydan

 

Gellir gweld lle mae’r mannau gwefru drwy ddefnyddio https://www.zap-map.com/

Mae gwefru cerbyd trydan yn broses syml sydd angen cebl plwg-i-blwg cymwys neu uned man gwefru plwg ar dennyn.

Mae angen cerdyn RFID neu ap ar ffôn clyfar i gael mynediad i fan gwefru. Bydd angen i yrwyr lawrlwytho ap Gwefru Dragon i ddechrau a gorffen eu sesiwn gwefru www.gwefrudragon.co.uk

Mae Rhwydwaith Gwefru Dragon yn rhwydwaith gwefru cerbydau trydan sy’n rhoi mynediad cyflym, dibynadwy a rhwydd i fannau gwefru cerbydau trydan ar draws Cymru.

Mae’r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ar eu gwefan Gymraeg www.gwefrudragon.co.uk