Cwestiynau Cyffredin

Sut y gallaf ganfod os oes man gwefru yn fy ardal?

Y ffordd orau i chwilio am fannau gwefru yw defnyddio Zap Map https://www.zap-map.com/live/ a chwyddo’r lleoliad perthnasol.

Sut y caiff mannau gwefru cerbydau trydan eu hariannu?

Cafodd awdurdodau lleol Gwent gyllid grant gan y Swyddfa Cerbydau Allyriad Isel (OLEV) i dalu am hyd at 75% o gostau gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio mewn ardaloedd preswyl. Mae’r Awdurdodau Lleol yn ariannu 25% arall y costau ar gyfer y safleoedd

Beth yw’r cynlluniau i atal cerbydau heblaw rhai trydan rhag defnyddio’r lleoedd parcio?

Bydd y Cyngor yn cyflwyno Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn dweud mai dim ond ar gyfer gwefru cerbydau trydan y mae’r baeau parcio i’w defnyddio. Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn gytundebau cyfreithiol sy’n galluogi’r Cyngor i orfodi’r rheoliadau. Gallem gymryd camau gorfodi os oes problem lle nad oedd preswylwyr yn medru cael mynediad i’r mannau gwefru oherwydd bod ceir heblaw rhai gwefru trydan wedi parcio yn y baeau. Gallai’r gweithredu hwn olygu y byddai ein swyddogion Gorfodaeth Sifil yn rhoi Hysbysiad Tâl Cosb ar gerbydau am dorri’r cyfyngiad parcio.

A fydd unrhyw reolau ar gyfer defnydd tebyg i faint o amser y gall rhywun ddefnyddio’r mannau gwefru?

Bydd y Cyngor yn annog pobl i symud eu ceir unwaith y bydd eu sesiwn gwefru yn gorffen. Os oedd problem gyda mynediad, gallem weithio gyda’n gweithredydd trydydd parti i weithredu rhywun neu weld os gallai ein Swyddogion Gorfodaeth Sifil fynd i’r safle yn amlach i gadw golwg ar hyn

Pwy fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw?

Rydym wedi rhoi contract i Silverstone Green Energy i gynnal a chadw a gweithredu’r mannau gwefru ar ran y Cyngor am 5 mlynedd sy’n cynnwys cynnal a chadw, gwasanaethu ac atgyweirio. Bydd llinell gymorth 24-awr y gallwch ei galw am help ar gael yn Gymraeg a Saesneg os oes problem nad yw’r mannau gwefru yn gweithio. Mae rhif y llinell gymorth 24-awr ar gael yn y mannau gwefru

A yw unedau mannau gwefru Cerbydau Trydan yn ddiogel?

Mae unedau mannau gwefru cerbydau trydan yn cynnwys llawer o nodweddion diogelwch i atal risg tân neu drydaneiddio. Mae’n rhaid i wneuthurwyr mannau gwefru cyrraedd safonau diogelwch trydan Ewropeaidd a darparu nodweddion diogelwch tebyg i Canfod Cerrynt Gweddilliol (torwyr cylched RCD) a diogelu brig foltedd yn ogystal â switsh ynysu a gaiff ei weithredu’n awtomatig os yw’r synhwyrydd man gwefru yn synhwyro fod difrod yn yr uned. Fel arfer caiff statws mannau gwefru ei fonitro gan system Rheoli Man Gwefru os gall yr unedau gyfathrebu gyda serfiwr swyddfa gefn dros rwydwaith symudol GPRS neu LAN/rhyngrwyd.

A oes unrhyw broblemau diogelwch tebyg i ddwyn ceblau tra byddwch yn gwefru ar y stryd?

Pan fyddwch yn cloi eich car, bydd y car yn diogelu eich cebl i’r car. Bydd y man gwefru’n cloi’r cebl hefyd pan fyddwch yn cloi eich car. Ni all neb wedyn ymyrryd ar eich sesiwn gwefru. I dynnu eich cebl o’r man gwefru mae’n rhaid i chi yn gyntaf ei dynnu o’ch car.

Pa fath o wybodaeth y bydd yr unedau man gwefru yn ei chasglu a sut y caiff ei defnyddio?

Bydd unedau man gwefru yn casglu gwybodaeth yn ymwneud ag amlder defnyddio man gwefru a defnyddio trydan. Bydd y data yn ddienw a chaiff ei gasglu a’i drosglwyddo (yn defnyddio amgryptiad) i system rheoli man gwefru. Gall y rhai sy’n gyfrifol am unedau mannau gwefru gael mynediad i ddata ddienw yn ymwneud â defnydd eu hoffer.

Beth yw gwahanol gyflymder unedau mannau gwefru?

Mae cyflymder gwefru yn dibynnu ar yr allbwn pŵer o’r cyflenwad trydanol, capasiti’r uned n gwefru, maint y pecyn bateri a’r pŵer y gall y gwefrydd yn y cerbyd ei dderbyn/drosi. Mae’r tabl dilynol yn rhoi golwg gyffredinol o amserau gwefru:

Gall yr unedau wefru ar hyd at 22 kW (tua 60 milltir o gyrraedd bob awr) ond caiff cyflymder y gwefru ei benderfynu gan y car ei hun a allai gyrraedd 3.68kW (16Amp, un cam), 7.2 kW (32 Amp, un cam), 11K (16Amp, 3 cam) neu 22 kW (32 Amp, 3 cam). Bydd y car yn newid cyflymder y gwefriad yn dibynnu ar gyflwr y batri. Gallai’r gwefrydd ostwng cyflymder y gwefru os oes llawer o bobl yn gwefru ar yr un pryd.

A all cerbydau hybrid ddefnyddio’r mannau gwefru?

Gallant, gall cerbydau hybrid plygio-mewn ddefnyddio’r mannau gwefru.

A fydd yn rhaid i mi dalu am barcio pan fyddaf yn defnyddio fy ngherbyd trydan?

Os yw’r maes parcio yn un talu ac arddangos, yna bydd angen i chi dalu i barcio eich cerbyd pan fyddwch yn ei wefru. Mae’r tariff i’w weld ar gyfer y maes parcio talu ac arddangos perthnasol. Byddai’r parcio am ddim os ydych yn parcio i wefru eich cerbyd tu allan i gyfnod y tariff.

A all sgwteri i’r anabl ddefnyddio eu mannau gwefru?

Na, ni all sgwteri i’r anabl ddefnyddio’r mannau gwefru. Maent angen eu haddaswyr pŵer eu hunain sy’n wahanol ar gyfer pob sgwter (er bod llawer yn defnyddio rhai tebyg). Mae angen i’r rhain gael eu plygio i soced 3 pin arferol.