Rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi rhaglen beilot ar raddfa fach ar gyfer Kerb Charger Rheinmetall, sef gwefrydd cerbyd trydan (EV) sydd wedi’i osod yn y cwrb. Mae’n ddatrysiad gwefru newydd sy’n galluogi gwefru cerbydau trydan yn uniongyrchol o wefrydd sydd wedi’i osod o fewn y cwrb, heb rwystro llwybrau troed na mannau cyhoeddus.

Enghraifft o wefrydd EV yn-y-cwrbyn Rheinmetall wedi'i osod ar lefel y stryd.
Yn wahanol i bwyntiau gwefru traddodiadol, mae'r gwefrwyr hyn wedi'u gosod ar lefel y palmant, gan gynnig ffordd ddiogel, gynnil a chyfleus i breswylwyr wefru eu EVs ar y stryd, yn enwedig mewn ardaloedd heb barcio oddi ar y stryd, mae offeryn cymorth ar gael i drigolion sydd ag anawsterau symudedd.
Sylwer: Rydyn ni wrthi’n dewis partner gweithredu pwyntiau gwefru, felly nid ydym yn gallu cadarnhau cost gwefru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i gadw gwefru mor fforddiadwy â phosibl i breswylwyr.

Rydym yn Chwilio am Gyfranogwyr ar gyfer y Peilot hwn.
Fel rhan o'r peilot hwn, rydym yn ceisio mynegiadau o ddiddordeb gan breswylwyr:
- sydd yn berchen ar gerbyd trydan neu hybrid neu’n prydlesu cerbyd o’r fath (neu sydd yn bwriadu gwneud hynny cyn Mawrth 2026)
- nad oes ganddynt fynediad at barcio oddi ar y stryd.
- sydd â diddordeb yn y posibilrwydd o allu gwefru ger eu cartref.
Dyma'ch cyfle i fod yn rhan o dreial arloesol a allai helpu i siapio seilwaith gwefru EV ar draws Blaenau Gwent.
Pam cymryd rhan?
- Dyluniad cynnil: wedi'i osod ar lefel y palmant i osgoi annibendod stryd.
- Cyfleus: gwefru eich EV ger eich cartref, heb unrhyw geblau.
- Hygyrch i bawb: Mae offeryn cymorth ar gael i helpu preswylwyr â heriau symudedd neu symudiad neu gryfder dwylo cyfyngedig i blygio'r cebl gwefru i mewn yn ddiogel ac yn hawdd.
- Diogel: wedi'i gynllunio ar gyfer diogelwch a hygyrchedd cerddwyr.
- Canolbwyntio ar y dyfodol: byddwch yn rhan o’r gwaith o adeiladu cymuned wyrddach a mwy cynhwysol.
Sylwch os gwelwch yn dda: Fel gyda’n treial gwefru ar y stryd presennol, ni fydd cymryd rhan yn y treial yn gwarantu parcio y tu allan i’ch cartref na ger y gwefrydd a osodir.Am ragor o wybodaeth am y Kerb Charger, ewch i wefan Rheinmetall Rheinmetall's website
Sut i Gofrestru Eich Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu ddysgu mwy, anfonwch fynegiant o ddiddordeb i'r cyfeiriad e-bost: EVCharging@blaenau-gwent.gov.uk