Tir Halogedig

Mae tir halogedig gan amlaf yn ganlyniad defnydd diwydiannol blaenorol, yn aml o brosesau traddodiadol nad ydynt bellach mewn defnydd. Gallai rhai o’r safleoedd hyn achosi perygl i iechyd dynol ac i’r amgylchedd.

Ar 1af Gorffennaf 2001, daeth trefn statudol i rym yng Nghymru yn darparu gwell system ar gyfer adnabod ac adfer tir halogedig. Cyfeirir yn aml at y drefn hon fel ‘Rhan 11A’ neu ‘Rhan 2A’ o Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990.

Un o ddyletswyddau pennaf y Cyngor yw amddiffyn trigolion a’r amgylchedd rhag unrhyw niwed posib a allai gael ei achosi gan dir halogedig. Dan Ran 2A, mae gan gynghorau ddyletswydd statudol i adnabod, arolygu ac os yw’n angenrheidiol, sicrhau yr adferir safleoedd halogedig hanesyddol o fewn eu hardal.

Mae adran Iechyd yr Amgylchedd yn ymgymryd â’r dyletswyddau hyn ac mae wedi cyhoeddi Strategaeth Tir Halogedig sydd ar gael isod. Mae’r strategaeth hon yn amlinellu sut caiff tir ei asesu, sut caiff gwybodaeth ei storio a pha raddfeydd amser fydd ynghlwm wrth gyflawni’r archwiliadau.

Nid Rhan 11A yw’r unig ffordd yr eir i’r afael â halogiad tir. Mae cynllunio a phrosesau rheoli adeiladu hefyd yn delio ag ef, ynghyd â mentrau adfywio trefol, gweithredu gwirfoddol gan berchnogion tir a diwydiant, a’r trefniadau sy’n amddiffyn yr amgylchedd rhag effeithiau gweithgarwch dynol cyfredol megis rheoli gwastraff a rheolaethau diwydiannol.

Pe byddech yn hoffi mwy o wybodaeth neu os oes gennych bryder ynghylch darn o dir rydych chi’n credu y gallai fod yn halogedig cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, drwy gyfrwng y manylion a roddir isod.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â

Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB 

Ffôn: 01495 357813
Ffacs: 01495 355834 

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk