Ansawdd Aer

Cadwch fel y dudalen we bresennol gan gynnwys yr atodiadau presennol.

Beth ydym yn ei olygu wrth Ansawdd Aer?

Ansawdd aer yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio a dosbarthu crynodiad llygryddion penodol yn yr aer. Mae gan y llygryddion hyn y potensial i effeithio’n andwyol ar iechyd dynol ar grynodiadau uchel.  

Beth yw Cyfrifoldebau’r Cyngor?

Dan Ran 1V o’r Ddeddf Amgylchedd 1995, mae’n ofynnol i gynghorau adolygu ac asesu ansawdd aer o fewn eu hardaloedd a nodi unrhyw ardaloedd lle mae’n annhebygol y bydd ansawdd aer yn cwrdd â’r amcanion a amlinellir yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2007. Mae hyn yn gymwys ar gyfer lleoliadau y tu allan i adeiladau neu strwythurau naturiol neu strwythurau gwneud, uwchben neu o dan y ddaear, lle mae aelodau’r cyhoedd yn bresennol yn rheolaidd. Mae’r broses o adolygu ac asesu ansawdd aer yn cynrychioli conglfaen yn system rheoli ansawdd aer yn lleol (RhAALl).

Mae’r Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol (SAAG)  a Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2007 yn gosod safonau ac amcanion yn seiliedig ar iechyd ar gyfer wyth prif lygrydd. Bwriedir mesurau a gynhwysir yn y SAAG i dorri lawr ar allyriadau a gwella ansawdd aer yn y blynyddoedd i ddod.

Adran Iechyd yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am fonitro ansawdd aer o fewn Blaenau Gwent. Gellir gweld rhestr o’r adroddiadau mwyaf diweddar sy’n cadarnhau statws ansawdd aer o fewn Blaenau Gwent isod. 

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â

Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB 

Ffôn: 01495 357813
Ffacs: 01495 355834 

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk