Adeiladau Gwag

Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymchwilio presenoldeb tua 800 o adeiladau gwag o fewn y Fwrdeistref. Mae adeiladau gwag yn arwain at bryderon cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cynnwys:

  • Creu dolur llygad sy'n darged ar gyfer ymddygiad niwsans a gwrthgymdeithasol
  • Gostwng gwerth adeiladau cyfagos
  • Cyfrannu at brinder tai yn yr ardal
  • Cynyddu pwysau am ddatblygu tai ar safleoedd tir glas i ateb y galw am dai
  • Rhoi baich ar yr awdurdod lleol gyda cholli refeniw o dreth gyngor ac amser ac adnoddau gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus, Rheoli Adeiladu, Awdurdod Tân a'r Heddlu.

Mae perchnogion adeiladau gwag hefyd yn colli incwm posibl a gynhyrchwyd drwy osod neu werthu eu hadeilad.

Rhoi gwybodaeth am Adeilad Gwag:

I roi adroddiad os oes adeilad gwag yn achosi problemau, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio 01495 357813

Strategaeth Cartrefi Gwag 2014-2020

Lansiwyd Strategaeth Cartrefi Gwag 2014-2020 gyda'r nod o ostwng nifer yr adeiladau gwag o fewn y Fwrdeistref drwy weithio gyda pherchnogion i ddod â'u hadeiladau'n ôl i ddefnydd. Mae hyn yn cynnwys monitro cartrefi gwag, gan roi cyngor ac arweiniad i landlordiaid a pherchnogion eiddo.

Gorfodaeth

Lle nad yw perchnogion eiddo gwag yn cydymffurfio a'r holl drafodaethau wedi methu, bydd y cyngor yn cymryd y camau gweithredu priodol i sicrhau y caiff yr adeilad gwag ei ddychwelyd i gyflwr y gellir byw ynddo a dod ag ef yn ôl i ddefnydd. Gall camau gorfodi gynnwys gorchmynion rheoli anheddau gwag, gorfodi gwerthiant, gorchmynion prynu gorfodol neu gaffaeliad gwirfoddol.

Rydym yn annog perchnogion i edrych ar y dolenni cefnogaeth i gael cyngor ac arweiniad ar ddod ag adeilad gwag yn ôl i ddefnydd.

I gael mwy o wybodaeth am Adeiladau Gwag ym Mlaenau Gwent, darllenwch ein Strategaeth Cartrefi Gwag 2014-2020.

Dogfennau Cysylltiedig