Trwydded Sw

Er mwyn rhedeg sw yn Lloegr, Yr Alban neu Gymru, bydd angen trwydded arnoch oddi wrth y Cyngor.

Bydd y drwydded yn rhwym wrth ffioedd ac amodau i sicrhau y caiff y sw ei rhedeg yn briodol.

Pwy all Wneud Cais?

O leiaf dau fis cyn gwneud y cais am drwydded, mae’n rhaid i’r ymgeisydd hysbysu’r Cyngor yn ysgrifenedig (gan gynnwys cyfrwng electronig) o’i fwriad i wneud y cais. Mae’n rhaid i’r hysbysiad nodi:

  • lleoliad y sw
  • y mathau o anifeiliaid a’r nifer priodol ym mhob grŵp a gedwir i’w harddangos ar y safle a’r trefniadau ar gyfer eu lletya, eu cynnal a’u cadw a’u lles
  • niferoedd yn fras a chategorïau’r staff i’w cyflogi yn y sw
  • nifer yr ymwelwyr a’r cerbydau yn fras y mae lle ar eu cyfer
  • nifer a lleoliad yn fras o’r mynediadau i’w darparu ar gyfer y safle
  • sut caiff y mesurau cadwraeth gofynnol eu gweithredu yn y sw

O leiaf ddau fis cyn gwneud y cais, mae’n rhaid i’r ymgeisydd hefyd gyhoeddi hysbysiad o’r bwriad hwnnw mewn un papur lleol ac un papur cenedlaethol ac arddangos copi o’r hysbysiad hwnnw ar y safle. Mae’n rhaid i’r hysbysiad nodi lleoliad y sw a nodi bod yr hysbysiad cais i’r Cyngor ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd y Cyngor.

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â’r drwydded hon.

A oes yn rhaid i fi dalu ffi ymgeisio?

Oes. Os gwelwch yn dda, edrychwch ar y Ffioedd a’r Prisiau.

Sut caiff fy nghais ei brosesu?

Wrth ystyried cais bydd y Cyngor yn rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan neu ar ran:

  • yr ymgeisydd
  • Prif Swyddog yr Heddlu yn yr ardal berthnasol
  • Yr awdurdod priodol – naill ai’r awdurdod gorfodi neu’r awdurdod perthnasol y lleolir y sw yn ei ardal , corff llywodraethol unrhyw sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud â gweithredu sws
  • lle mae rhan o’r sw heb ei lleoli yn ardal y Cyngor sydd â’r pŵer i ganiatáu’r drwydded, yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal lle caiff ei lleoli
  •  unrhyw berson sy’n honni y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch y gymdogaeth
  • unrhyw berson arall lle gallai ei sylwadau ddangos seiliau ar ba rai y mae gan y Cyngor bŵer neu’r ddyletswydd i wrthod caniatáu trwydded

Cyn cymeradwyo neu wrthod y drwydded, bydd y Cyngor yn ystyried unrhyw adroddiadau arolygwyr yn seiliedig ar eu harchwiliad o’r sw, yn ymgynghori â’r ymgeisydd ynghylch unrhyw amodau maent yn cynnig y dylid eu hatodi i’r drwydded a gwneud trefniadau i arolwg gael ei gyflawni. Darperir hysbysiad o’r arolwg o leiaf 28 niwrnod gan y Cyngor.

Ni fydd y Cyngor yn caniatáu’r drwydded os ydw’n credu y byddai’r sw yn effeithio’n andwyol ar iechyd a diogelwch y bobl yn byw yn ei hymyl, neu’n effeithio’n ddifrifol ar gadw cyfraith a threfn neu os nad yw’n fodlon y byddai’r mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu’n foddhaol

Gellir gwrthod cais hefyd os: 

  • nad yw’r Cyngor yn fodlon bod y safonau llety, staffio neu reoli’n ddigonol ar gyfer gofal a lles yr anifeiliaid neu ar gyfer rhedeg y sw’n briodol 
  • yw’r ymgeisydd, neu os yw’r ymgeisydd yn gwmni corfforedig, y cwmni neu unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall o’r cwmni, neu geidwad yn y sw, wedi ei euogfarnu o drosedd dan y Ddeddf neu o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid

Rhoddir ystyriaeth i geisiadau i adnewyddu trwydded heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn bod dyddiad y drwydded bresennol yn dod i ben , oni bai bod cyfnod amser byrrach yn cael ei ganiatáu gan y Cyngor

Gallai Llywodraeth Cymru, wedi ymgynghori â’r Cyngor, ei gyfarwyddo i atodi un neu fwy o amodau i drwydded

Gallai’r Cyngor gynghori Llywodraeth Cymru , oherwydd y nifer fechan o anifeiliaid a gedwir yn y sw, neu nifer fechan y mathau o anifeiliaid a gedwir yno, y dylid rhoi cyfarwyddyd nad yw trwydded yn ofynnol

A fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

Na, ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Mae o ddiddordeb cyffredinol fod yn rhaid i’r Cyngor brosesu’ch cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda. Gallwch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch chi gais drwy Wasanaeth Croesawu’r DU neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Gwneud cais ar-lein

A allaf i apelio os yw fy nghais yn methu?

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, ag adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau trwydded a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.

Gall deiliad trwydded apelio i Lys Ynadon  yn erbyn:

  • unrhyw amod yng nghlwm wrth drwydded neu unrhyw amrywiad neu ganslo trwydded.Hysbysiadau cosbau penodedig
  • gwrthod cymeradwyo trosglwyddo trwydded
  • cyfarwyddyd i gau sw
  • cyfarwyddiadau gorfodi yn gysylltiedig ag unrhyw amodau trwydded heb eu gwireddu

Mae’n rhaid i’r apêl gael ei gwneud o fewn 28 niwrnod o’r dyddiad y mae’r deiliad trwydded yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y Cyngor ynghylch y mater perthnasol

Cwyn Defnyddiwr

Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch ag adran Iechyd yr Amgylchedd.

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â

Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN

Ffôn: 01495 357813
Ffacs: 01495 355834 

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk