Trwydded Sefydliadau Lletya Anifeiliaid

Er mwyn rhedeg llety cŵn neu gathod, mae’n ofynnol i chi’n gyfreithiol ddal trwydded oddi wrth y Cyngor. Nodir ar y drwydded nifer y cŵn a/neu gathod y gellid eu lletya ynghyd ag amodau penodol eraill.

Pwy all wneud cais?

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac mae’n rhaid iddynt fod heb eu diarddel:

  • rhag cadw sefydliadau lletya anifeiliaid dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • rhag cadw sefydliad marchogaeth dan Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970
  • rhag cadw siop anifeiliaid dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • rhag cael cystodaeth o anifeiliaid dan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Gwelliant) 1954
  • rhag cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, bod yn gallu dylanwadu ar y modd mae anifeiliaid yn cael eu cadw, dosbarthu anifeiliaid neu drawsgludo neu â rhan mewn  trawsgludo anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â’r drwydded hon

A oes yn rhaid i fi dalu ffi ymgeisio?

Oes. Os gwelwch yn dda, edrychwch ar y Ffioedd a’r Prisiau.

Sut caiff fy nghais ei brosesu?

Wrth benderfynu caniatáu trwydded neu beidio ar gyfer cadw sefydliad lletya anifeiliaid gan unrhyw berson mewn unrhyw adeilad, bydd awdurdod lleol yn arbennig (ond heb ragfarn i’w ddoethineb  i gadw’r drwydded yn ôl am resymau eraill) yn ystyried yr angen i sicrhau:

  • y bydd anifeiliaid bob amser yn cael eu cadw mewn llety addas parthed adeiladwaith, maint y trigle, nifer y deiliaid, cyfleusterau ymarfer, tymheredd, goleuo, awyru a glanweithdra;
  • y cyflenwir anifeiliaid yn ddigonol â bwyd, diod a  deunydd gorwedd addas, eu bod yn cael eu hymarfer yn ddigonol, a (chyn belled ag y mae’n angenrheidiol) yr ymwelir â hwy ar gyfnodau addas;
  • y cymerir pob gofal rhesymol i atal a rheoli clefydau  heintus rhag lledu ymysg yr anifeiliaid , gan gynnwys darparu cyfleusterau ynysu digonol;
  • y cymerir camau priodol ar gyfer amddiffyn yr  anifeiliaid rhag tân neu achos brys arall;
  • y cedwir cofrestr yn cynnwys disgrifiad o unrhyw anifeiliaid a dderbynnir i mewn i’r sefydliad, y dyddiad mae’r anifeiliaid yn cyrraedd ac yn gadael, ac enw a chyfeiriad y perchennog, y gofrestr honno i fod ar gael bob amser i’w harchwilio gan swyddog awdurdodedig yn yr awdurdod lleol, gan filfeddyg neu ymarferydd milfeddygol

Gellid derbyn manylion pellach ynghylch yr asesiad ar gyfer meini prawf oddi wrth adran Iechyd yr Amgylchedd.

Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

Bydd eich cais yn cymryd hyd at bedwar mis i’w brosesu ac fe fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai’ch cais wedi ei ganiatáu os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed o bedwar mis.

Gwneud cais ar-lein

A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, ag adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau trwydded a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo apelio i’w Lys Ynadon lleol. Gellir derbyn manylion ar hawliau apêl oddi wrth adran Iechyd yr Amgylchedd.

Gall unrhyw ddeiliaid trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm wrth eu trwydded apelio i’w Llys Ynadon lleol. Byddem yn cynghori, fodd bynnag, eich bod yn cysylltu ag adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf.

Cwyn Defnyddiwr

Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch ag adran Iechyd yr Amgylchedd.

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â

Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen
The General Offices
Steelworks Road
Ebbw Vale
NP23 6AA

Ffôn: 01495 357813
Ffacs: 01495 355834 

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk