Trwydded Magu Cŵn

Os ydych yn magu cŵn i’w gwerthu mewn safleoedd ym Mlaenau Gwent, mae’n rhaid i chi gael trwydded oddi wrthym ni.

Yn ychwanegol tybir bod bridiwr y mae ei ast neu ei eist yn geni tri torraid neu fwy o fewn unrhyw gyfnod o 12-mis yn gweithredu busnes bridio cŵn. Os ydych yn dymuno trafod cais ymhellach, cysylltwch, os gwelwch yn dda, ag Iechyd yr Amgylchedd.

Sut i Wneud Cais

Gellir cael ffurflenni cais oddi wrth Wasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Cwblhewch y ffurflen, os gwelwch yn dda, a’i dychwelyd gyda’r ffi i Wasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd.

Byddwch yn gorfod talu ffi am y drwydded hon.

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â

Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB 

Ffôn: 01495 357813
Ffacs: 01495 355834 

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk