Yn gyfreithiol mae’n rhaid i bob gweithredwr busnes bwyd wneud yn siŵr bod unrhyw staff sy’n trafod bwyd yn cael eu harolygu a’u cyfarwyddo, a/neu yn cael eu hyfforddi, mewn hylendid bwyd mewn ffordd sy’n briodol ar gyfer y gwaith maent yn ei wneud.
Ar gyfer y rheiny sy’n trafod bwyd, bydd angen i’r cydbwysedd rhwng faint o arolygaeth a chyfarwyddyd a/neu hyfforddiant sydd eu hangen gael ei benderfynu ar sail unigol a bydd yn ddibynnol ar amrywiaeth o ffactorau.
Mae cyrsiau ffurfiol ar gael ar ffurf Gwobr Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd mewn Arlwyo, Gwobr Lefel 3 mewn Arolygu Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo, a Gwobr Lefel 4 mewn Rheoli Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo.
Gallech chi a’ch staff gael anghenion hyfforddiant gwahanol, felly dylech ystyried pob aelod staff yn ei dro. Gallai fod yn rhaid i chi wneud trefniadau arbennig ar gyfer unrhyw aelodau staff nad yw eu hiaith gyntaf yn Saesneg neu ar gyfer y rheiny sydd â phroblemau llythrennedd.
Mae’n arfer dda i fusnes gadw cofnodion o’r hyfforddiant a gwblhawyd gan bob aelod o staff, er mwyn arddangos lefelau hyfedredd unigol.
Lle i dderbyn Hyfforddiant Hylendid Bwyd
Bydd gwefan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd yn gallu cynnig i chi fanylion o ganolfannau hyfforddiant sy’n rhedeg cyrsiau hylendid bwyd. Gallant hefyd ddarparu manylion o hyfforddwyr sy’n rhedeg cyrsiau mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg. Eu rhif ffôn yw 02079 286006 neu ymwelwch â’u gwefan ar http://www.cieh.org/training/courses/
Cyngor Ychwanegol i Weithredwyr Busnesau Bwyd
Gellir cael cyngor pellach mewn perthynas â hyfforddiant hylendid bwyd drwy gysylltu â’r Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd. Darperir cyngor a deunyddiau ategol i weithredwyr busnesau bwyd ar food.gov.uk.
Gwybodaeth Gyswllt
Tîm Masnachol
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Amddiffyn y Cyhoedd –
Iechyd yr Amgylchedd, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk