Cefnogaeth Gwasanaethau Cymdeithasol tu Allan i Oriau Swyddfa Arferol

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gwasanaeth brys y tu allan i oriau swyddfa arferol.  Mae’r gwasanaeth hwn ond yn delio â sefyllfaoedd brys nad sy’n gallu aros tan y diwrnod gwaith nesaf.

Ffoniwch ni os ydy:

  • Plentyn neu berson ifanc angen eu diogelu rhag niwed ar frys.
  • Rhiant, gofalydd maeth neu blentyn angen help, cyngor neu gymorth ar frys.
  • Gofalydd neu oedolyn sydd mewn perygl (y rheiny sydd â phroblemau iechyd y meddwl, anableddau corfforol neu ddysgu neu bobl hyn) angen help ar frys.

Nid ydym yn gallu helpu os:

  • Gall y sefyllfa aros tan y diwrnod gwaith nesaf, heb risg o niwed.
  • Ydyw’n ddiwrnod gwaith.  Nid ydym ar gael felly cysylltwch â’ch Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.
  • Ydyw’n argyfwng meddygol – rhaid i chi ffonio’ch meddyg neu ambiwlans.

Pwy sy’n gallu defnyddio’r gwasanaeth?

  • Pobl sy’n byw ym mwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen, sydd angen help ar frys gan Wasanaethau Cymdeithasol, os ydynt eisoes yn derbyn ein gwasanaethau neu beidio.
  • Unrhyw un sy’n galw ar ran rywun arall, os ydyw’n broffesiynolwr, perthynas, ffrind neu ofalydd.

Pryd ydy’r gwasanaeth ar gael?

Mae’r gwasanaeth brys allan o oriau yn gweithredu pan fo swyddfeydd Gwasanaethau Cymdeithasol eraill ar gau.  Gallwch ond ei gysylltu ar y ffôn neu ffacs.

Gwybodaeth Gyswllt

Out of Hours Service

Ffôn: 0800 328 4432
Ffacs: 01495 767057

Dydd Llun – Dydd Iau 5pm – 8.30am.
 
Dydd Gwener 4.30pm tan 8.30am y Dydd Llun canlynol.
 
Gwyliau’r Banc a penwythnos 24awr.