Darpariaeth Gwasanaethau Dydd (Canolfannau Dydd)

Canolfan Bert Denning - Brynmawr

Mae'r ganolfan hon yn darparu ar gyfer oedolion gydag anableddau corfforol a/neu synhwyraidd dybryd a lluosog sydd angen cefnogaeth staff arbenigol. Mae'r cyfleuster yn cynnwys pwll hydrotherapi ac offer synhwyraidd arbenigol. (Ar gael ar log preifat).

Cyfleuster Arlwyo Opsiynau Cymunedol - Adeilad Lakeview, Heol Pond, Nantyglo

Mae'r cyfleuster hwn yn darparu hyfforddiant arlwyo seiliedig ar waith ar gyfer unigolion a hoffai ddatblygu eu sgiliau a gallant ddymuno symud ymlaen i gyflogaeth prif ffrwd neu gyflogaeth â chymorth.

Lake View - Heol Pond, Nantyglo

Mae'r gwasanaeth yn darparu ar gyfer oedolion hŷn gydag anableddau dysgu ac anghenion iechyd meddwl, gan gynnig amgylchedd diddorol i alluogi pobl i ddatblygu sgiliau personol. Rhoddir cefnogaeth wrth gael mynediad i'r gymuned leol. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi unigolion sydd â salwch iechyd meddwl drwy ailadeiladu/adeiladu sgiliau byw, adennill annibynniaeth ac ailintegreiddio i'r gymuned. 

Vision 21  - Seiliedig yn Llys Nant Y Mynydd

Mae trefniant partneriaeth gyda Vision 21  a Chymdeithas Tai United Welsh wedi darparu cyfleoedd i unigolion ddatblygu sgiliau arlwyo a chymwysterau gyda'r nod o symud ymlaen i gyflogaeth ar dâl.

Os hoffech wybod mwy am Opsiynau Cymunedol a'i wasanaethau cysylltwch â:

Canolfan Bert Denning
Heol Warwick
Brynmawr
NP23 4AR 

Ffôn: (01495) 315278

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk