Darpariaeth Gwasanaethau Dydd

Ym Mlaenau Gwent credwn fod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol yn unigolion sydd â'r hawl i benderfynu sut y treuliant bob dydd.

Rydym yn darparu amrywiaeth o Ddewisiadau Cymunedol a gynhelir yn ein Canolfannau Dydd. Maent yn rhoi cymorth hanfodol, cwmniaeth ac efallai gyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth ddatblygu diddordebau newydd.  Mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn rhoi cefnogaeth a gofal â chymorth i 285 o ddefnyddwyr gwasanaeth sydd ag anableddau dysgu/corfforol a salwch iechyd meddwl.

Mae ein rhaglen Dewisiadau Cymunedol yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant cyflogaeth, cyflogaeth addygol, hamdden, chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae'r holl wasanaethau yn wasanaethau hyblyg gyda ffocws ar ganlyniadau sy'n canolbwyntio ar y person gan alluogi pobl i ymarfer eu hawliau a chymryd rhan weithgar yn eu cymunedau.

Ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth hynny gydag anghenion lefel uchel mae gennym hefyd Dîm Cymorth Cymunedol a all gynnig cymorth un i un a dau i un i helpu pobl i gymryd rhan yn y gweithgarddau a ddewisant.

Mae'r gwasanaeth Cymorth Cymunedol yn arbenigo mewn rheoli ymddygiad cadarnhaol ac mae'n cefnogi unigolion gydag ymddygiad heriol i:

  • Gael mynediad i weithgareddau a chyfleoedd seiliedig yn y gymuned
  • Hyrwyddo annibyniaeth a chefnogi i gyflawni y nodau a ddymunant

Drwy'r dudalen hon gallwch ganfod mwy am rai o'r gweithgareddau Opsiynau Cymunedol y mae ein defnyddwyr gwasanaeth yn eu mwynhau ar hyn o bryd.

Os dymunwch wybod mwy am Opsiynau Cymunedol, y Tîm Cefnogi Cymunedol neu wasanaethau Gofal Dydd, cysylltwch â:

Canolfan Bert Denning
Heol Warwick
Brynmawr
NP23 4AR

Ffôn: (01495) 369636

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk