Polisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Blaenau Gwent

Blaenau Gwent Corporate Safeguarding Policy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sy'n byw yn y Fwrdeistref yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn a bod ein cyfrifoldebau statudol i ddiogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yn cael eu cyflawni'n effeithiol.

Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol yn nodi'r trefniadau ar gyfer diogelu ym Mlaenau Gwent a beth i'w wneud os oes gennych bryder am blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

Diogelu Gwent

Mae'r holl wybodaeth am y Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Rhanbarthol i'w gweld ar eu gwefan: Croeso i wefan Diogelu Gwent - Diogelu Gwent (www.gwentsafeguarding.org.uk

Mae'r wefan yn darparu mynediad i'r ffurflen Dyletswydd i Adrodd ar Ddiogelu Plant (ffurflen atgyfeirio amlasiantaethol) a'r Ddyletswydd i adrodd ohoni ar gyfer diogelu oedolion, ynghyd ag adnodd eang o wybodaeth ddiogelu, gan gynnwys dolenni i'r system archebu hyfforddiant drwy'r tudalennau Hyfforddiant. 

Diogelu Gwent