Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 https://law.gov.wales/social-services-and-well-being-wales-act-2014-further-legislation-codes-and-guidance-made-under-act i rym ar 6 Ebrill 2016.

Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd y caiff anghenion pobl eu hasesu a’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu – bydd pobl yn cael mwy o lais yn y gofal a chymorth a gânt.

Mae hefyd yn hyrwyddo’r ystod help sydd ar gael o fewn y gymuned i ostwng yr angen am gymorth ffurfiol, wedi’i gynllunio.

  • Gwasanaethau ar gael i ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir
  • Mwy o wybodaeth a chyngor ar gael
  • Asesiad yn symlach a chymesur
  • Gofalwyr â hawl cyfartal i gael eu hasesu ar gyfer cymorth
  • Pwerau cryf i gadw pobl yn ddiogel rhag cam-driniaeth ac esgelustod

Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - Rhan Dau, adran 14 yn ei gwneud yn ofynnol fod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar y cyd yn cynnal asesiad o’r anghenion am ofal a chymorth, ac anghenion cymorth gofalwyr mewn ardaloedd awdurdodau lleol.

Mae gofal a chymorth yng nghyswllt pobl sy’n hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr a’r rhai a gefnogir drwy wasanaethau atal.

Mae dau adran yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth (PNA):

  • Asesu i ba raddau y mae pobl neu eu gofalwyr sydd angen gofal a chymorth ac i ba raddau y maent angen cymorth
  • Asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer anghenion gofal a chymorth y boblogaeth, eu gofalwyr, i atal anghenion rhag codi a gwaethygu a’r camau gweithredu sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Cynhaliwyd y PNA cyntaf ym mis Ebrill 2017 a’r fersiwn ddiweddaraf ym mis Ebrill 2022. 

Cynllun Ardal Ranbarthol

Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd baratoi a chyhoeddi cynllun yn nodi ystod a lefel y gwasanaethau y cynigiant eu darparu, neu drefnu i gael eu darparu, mewn ymateb i’r PNA. Mae’n rhaid i gynlluniau ardal gynnwys y gwasanaethau penodol a gynlluniwyd mewn ymateb i bob thema greiddiol a ddynodir yn yr asesiad o’r boblogaeth. Fel rhan o hyn mae’n rhaid i gynlluniau gynnwys:

  • y camau gweithredu y bydd partneriaid yn eu cymryd yng nghyswllt meysydd blaenoriaeth integreiddio ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
  • yr achosion a manylion y cronfeydd i’w sefydlu mewn ymateb i’r PNA
  • sut y caiff gwasanaethau eu caffael neu drefnu i gael eu cyflenwi, yn cynnwys drwy fodelau cyflenwi eraill
  • manylion y gwasanaethau ataliol a gaiff eu darparu neu eu trefnu;
  • y camau gweithredu a gymerir yng nghyswllt darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth; a
  • y camau gweithredu sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyhoeddwyd y cynllun ardal cyntaf ym mis Ebrill 2018 gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn sicrhau cysylltiadau rhwng y Cynllun Ardal a Chynlluniau Llesiant awdurdodau lleol sydd eu hangen dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i hwyluso cydweithio ac osgoi dyblygu. Y buddion a ddisgwylir yw mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithio rhanbarthol, cyd-gomisiynu a cynyddu adnoddau i’r eithaf.

Dogfennau Cysylltiedig

I gael copi o unrhyw ddogfennau a restrir islaw ewch i: https://www.gwentrpb.wales/ 

  • Crynodeb o’r PNA
  • PNA Gwent
  • Cynllun Ardal Llesiant
  • Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

Cyswllt

I gael mwy o wybodaeth neu gadw’n gyfoes gyda gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol cysylltwch â gwentregionalpartnershipboard@torfaen.gov.uk neu ymweld â’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol a restrir isod.

Facebook: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol  - https://www.facebook.com/profile.php?id=100068857284255

Twitter: @Board Gwent - https://twitter.com/BoardGwent

Youtube: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent - https://www.youtube.com/channel/UCPfF4IYAgUkmZxd4TX3jIpA/featured