Gwybodaeth i Rieni

Cynnig Gofal Plant Cymru (30 awr o Ofal Plant)

Rydyn ni ar hyn o bryd yn agored i geisiadau am blant gydag oed geni hyd at 31ain Awst, sy’n byw o fewn ardaloedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent neu Gyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen.

Beth ydy’r Cynnig Gofal Plant?

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn gyfuniad o oriau addysg gynnar (FPN) ac oriau gofal plant rhad ac am ddim, i rieni cymwys sy’n gweithio i’w plant tair a phedair mlwydd oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

Am faint o oriau gofal plant ydw i’n gymwys?

Mae’r cynnig am fwyafswm o 30 awr, yn gyfuniad o addysg a gofal plant. Mae Cyngor Bwrdeidrfef Sirol Blaenau Gwent eisoes yn darparu pob plentyn â 12.5 awr o addysg FPN, sy’n golygu, yn ystod y tymor ysgol, gall rhieni cymwys wneud defnydd o 17.5 awr o ofal plant ychwanegol.

Does dim gofyn i rieni wneud defnydd o’u hawl i addysg gynnar fel anghenraid i ddefnyddio elfen gofal plant y cynnig; fodd bynnag, fe fydd eu hawliad yn cynnwys yr oriau hyn, p’un ai eu bod yn eu defnyddio ai peidio.

Os cynigir/derbynnir oriau Meithrin Cyfnod Sylfaen ychwanegol, bydd cyfanswm yr oriau gofal plant yn cael  eu lleihau fel canlyniad.

Pryd ga i wneud defnydd o’r Cynnig?

Bydd y cynnig yn dechrau o’r tymor wedi trydydd penblwydd plentyn hyd at y mis Medi’n dilyn eu pedwerydd penblwydd.

Caiff rhieni ymgymryd â’r cynnig gofal plant ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod amser hwn, cyn belled â’u bod yn gymwys i wneud hynny. Fe ddylai rhieni allu gwneud defnydd o’r cynnig o ba bynnag bwynt maen nhw’n dymuno yn ystod y tymor hwnnw, gyda bod eu plentyn yn gymwys o ddechrau’r tymor hwnnw, neu’n gynharach. Mae hyn yn cynnwys rhieni sy’n symud i’r ardal neu’n llwyddo i dderbyn cyflogaeth. 

Noder y byddwch ond yn dod yn gymwys o‘r dyddiad a nodir ar y llythyr/e-bost cadarnhau a dderbyniwch gan y tîm Cynnig Gofal Plant unwaith y bydd eich cais wedi’i brosesu.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y Cynnig?

I wneud defnydd o elfen gofal plant y cynnig, mae’n rhaid i rieni/gofalwyr:

  • Fyw ym Mlaenau Gwent
  • Wedi’ch cyflogi neu’n hunangyflogedig and yn byw yn barhaol yng Nghymru. Rhaid bod y ddau riant / cyplau’n cyd-fyw yn gweithio mewn teulu dau riant, neu’r unig riant mewn teulu un rhiant;
  • Yn ennill lleiafswm wythnosol sy’n cyfateb ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol (ICC/NMW) neu’r cyflog byw cenedlaethol (CBC/NLW).

Lle bo rhieni wedi gwahanu ond heb fod yn rhannu gwarchodaeth gyfartal o’r plentyn, bydd y rhiant â’r gwarchodaeth sylfaenol yn gymwys i ymgymryd â’r cynnig (os ydyn nhw’n cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd). Lle bo rhieni’n rhannu gwarchodaeth gyfartal, bydd gofyn enwebu un rhiant fel y prif riant ar gyfer y cynnig.

Bydd gofyn i holl rieni, gwarcheidwaid, llys-rieni a phartneriaid sy’n cyd-fyw gwrdd â’r meini prawf cymhwysedd er mwyn i blentyn sy’n byw o fewn yr aelwyd honno allu fanteisio â’r cynnig.

Beth fyddai’n digwydd petawn i neu fy mhartner yn colli’n swydd?

Petai rhieni’n colli ei gymhwysedd, fe fyddai cyfnod esemptiad dros dro o 8 wythnos yn cael ei ganiatáu, yn ystod yr hyn fe fydd modd iddyn nhw allu parhau i fanteisio ar y cynnig.

Gwybodaeth i rieni a fu unwaith yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ond sydd, fel canlyniad i effaith Covid-19 yn y cyfnod Mawrth – 31 Awst 2020, sydd ddim bellach yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd (er eu bod yn parhau yn gymwys ym mhob ffordd arall).

Os ydy rhiant wedi colli cymhwysedd oherwydd, fel canlyniad i Covid-19, bod eu hincwm wedi gostwng islaw’r 16 awr ar yr isafswm cyflog cymwys neu wedi mynd dros £100mil gros dros dro, mae modd iddyn nhw barhau i dderbyn y Cynnig hyd at ddiwedd mis Hydref. Mae hyn fwy neu’n lai’n gydnaws â chau’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ar Hydref 19 a’r cynllun ffyrlo sy’n cau ar ddiwedd mis Hydref.

Gall enghreifftiau pam y byddai rhaint wedi colli cymhwysedd dros dro yn ystod y cyfnod hwn gynnwys:

  • Eu bod wedi bod ar ffyrlo ond bod eu henillion parhaol (yr hyn y buo nhw’n ennill cyn ffyrlo) yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynnig;
  • Eu bod ar Dâl Salwch Statudol;
  • Eu bod yn parhau’n gyflogedig ond wedi cymryd absenoldeb di-dâl i ofalu am eraill, heblaw am blentyn sy’n gymwys i’r Cynnig;
  • Eu bod yn gweithio llai o oriau na’r arfer;
  • Eu bod yn derbyn taliadau gan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.

Gwybodaeth i rieni sy’n gwneud cais am y Cynnig am y tro cyntaf – a fyddai fel arfer wedi cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ond nad ydyn nhw bellach fel canlyniad i Covid-19.

Bydd rhieni sy’n gwneud cais am y Cynnig am y tro cyntaf o fis Medi 2020 yn cael eu hystyried yn gymwys os fedren nhw brofi i’r awdurdod lleol y basen nhw yn arferol yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynnig.

Bydd yn rhaid i rieni brofi bod eu henillion ym misoedd Ionawr a Chwefror 2020, fel canlyniad i Covid-19, yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynnig ond eu bod wedi gweld gostyngiad mewn icwm ers hynny (er enghraifft):

  • Eu bod wedi bod ar ffyrlo ond bvod eu henillion parhaol (yr hyn y buon nhw’n ei ennill cyn ffyrlo) yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynnig;
  • Eu bod ar Dâl Salwch Statudol neu Dâl Salwch;
  • Eu bod yn parhau mewn cyflogaeth ond wedi cymryd absenoldeb di-dâl i ofalu am eraill, heblaw plentyn sy’n gymwys ar gyfer y Cynnig;
  • Eu bod yn gweithio llai o oriau nag y basen nhw’n arferol;
  • Eu bod yn derbyn taliadau o Gynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.

Yn achos rhieni hunangyflogedig sefydledig, fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddarparu eu ffurflen Hunanasesiad ddiweddaraf fel prawf eu bod yn ennill cyn y pandemig neu ddarparu rhagamcanestyniad o’r modd y bydden nhw’n cwrdd â’r trothwy lleiafswm enillion ar gyfer y 12 mis cyntaf yn dilyn sefydlu’r busnes.

Eithriadau i gymhwysedd

Mae rhai amgylchiadau lle gall rhieni fanteisio ar y cynnig pan na fydden nhw’n cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd:

  • Lle bo un neu’r ddau riant i ffwrdd o’u gweithle dros dro ar dâl salwch statudol neu’n derbyn tâl mamolaeth / tadolaeth statudol.
  • Lle bo un rhiant yn gyflogedig ac un rhiant yn anabl neu’n analluog ar sail derbyn budd-daliadau penodol neu sydd â chyfrifoldebau gofal sylweddol ar sail derbyn budd-daliadau penodol i ofalu;
  • Rhieni newydd fynd yn hunangyflogedig;
  • Gofalwyr sy’n berthynas, gofalwyr teulu a ffrindiau sydd wedi cymryd cyfrifolde am blentyn neu lys-blentyn sydd ddim yn perthyn iddyn nhw oherwydd:

Nad oes gan y plentyn rieni neu fod ganddyn nhw rieni sy’n methu â gofalu am y plentyn.

Mae hi’n debygol y byddai’r plentyn, fel arall, dan ofal yr awdurdod lleol oherwydd pryderon mewn perthynas â lles y plentyn.

Fedra i ddefnyddio mwy nag un darparwr gofal plant?

Cewch, fedrwch chi ddefnyddio hyd at DDAU leoliad gofal plant cofrestredig y dydd, yn ychwanegol at eu lleoliad FPN ar unrhyw ddiwrnod.

Fedra i gronni fy oriau?

Na chewch.  Does dim system gronni / bancio ar waith. Bydd 30 awr cyfunol o ddarpariaeth addysg FPN a gofal plant yn cael eu darparu i rieni, gyda rhieni’n dewis faint o’r 30 awr i’w defnyddio. Bydd unrhyw oriau na chaiff eu defnyddio mewn wythnos yn cael eu colli.

Sut fydd y cynnig yn gweithio tu allan i dymor ysgol?

Bydd y cynnig gofal plant yn weithredol am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae Darpariaeth Feithrin Cyfnod Sylfaen ar gael am hyd at 39 wythnos y flwyddyn, felly, bydd rhieni cymwys yn gallu gwneud defnydd o 30 mawr o ofal plant ar gyfer y 9 wythnos sy’n weddill o’r flwyddyn.

Caiff rhieni cymwys wn eud defnydd o’u 9 wythnos o ddarpariaeth gwyliau pryd bynnag maen nhw’n dewis. Fodd bynnag, cyfridoldeb y rhiant ydy canfod darparwr sy’n cynnig y ddarpariaeth sydd orau i’w plentyn nhw. Ni ellir cronni oriau gofal plant dros wythnosau.

 

Dogfennau Cysylltiedig