Ydych chi wedi ystyried dod yn Gynorthwyydd Personol?
Os ydych yn edrych am swydd hyblyg a gwerth chweil o fewn y sector gofal iechyd yna efallai y bydd gennych ddiddordeb dod yn gynorthwyydd personol i unigolyn sy'n derbyn taliad uniongyrchol gan y Cyngor.
Rhai o fanteision dod yn gynorthwyydd personol yw efallai nad oes angen profiad blaenorol; gall fod cyfleoedd gweithio hyblyg a'r gallu i chi weithio'n lleol ynghyd â chyfradd dda o dâl.
Er nad yw'n rhaid i hi fod â phrofiad blaenorol i ddod yn gynorthwyydd personol bydd angen i chi gael nodweddion allweddol fel agwedd ofalgar a chefnogol, bod yn ddibynadwy ac amyneddgar, bod â dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu'r unigolyn y gofalwch amdanynt, cadw cyfrinachau a bod yn ddibynadwy, medru cymryd yr awenau a pharchu preifatrwydd yr unigolyn y gofalwch amdanynt a'u teulu.
Beth yw Taliad Uniongyrchol?
Taliad uniongyrchol yw lle mae'r Cyngor yn rhoi arian i unigolion sydd â hawl i dderbyn gofal cymdeithasol fel y gallant gyflogi cynorthwyydd personol a/neu brynu eu gofal a'u cefnogaeth eu hunain yn hytrach nag iddynt ddibynnu ar yr adran gwasanaethau cymdeithasol i drefnu hyn iddynt. Mae taliad uniongyrchol yn rhoi dewis a hyblygrwydd i unigolyn fel y gallant benderfynu sut a phryd y darperir eu gofal a'u cefnogaeth.
Pwy fyddai'n cyflogi'r Cynorthwyydd Personol?
Yr unigolyn sy'n derbyn taliad uniongyrchol h.y. y person sy'n 'derbyn gofal' fyddai'n cyflogi'r cynorthwyydd personol. Mae hyn yn golygu y byddai'r unigolyn yn gyfrifol am reoli telerau ac amodau contract cyflogaeth y cynorthwyydd personol ynghyd â threfnu eu gofal a'u cefnogaeth eu hunain.
Beth fedrid disgwyl i Gynorthwyydd Personol ei wneud?
Caiff y rhan fwyaf o gynorthwywyr personol eu cyflogi i gefnogi unigolion gyda thasgau dyddiol a allai gynnwys:
- Cynorthwyo gyda chynnal glanweithdra personol e.e. cymryd bath, cael cawod, golchi strip, glanhau dannedd, brwsio gwallt ac yn y blaen
- Cynorthwyo gyda chodi yn y bore a mynd i'r gwely yn y nos
- Cynorthwyo gyda gwisgo a dadwisgo, gofalu am gymorth clywed, dannedd gosod ac yn y blaen
- Cynorthwyo gyda symud a thrin
- Cynorthwyo gyda pharatoi prydau bwyd a allai gynnwys prydau microdon, prydau a gaiff eu coginio yn y ffwrn neu gall fod angen i chi goginio rhai prydau ysgafn.
- Cefnogi'r unigolyn i gael mynediad i'r gymuned a allai gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau megis mynd i nofio, mynd i'r gampfa, mynd i'r dafarn, mynd i ddosbarth addysg oedolion, mynd i siopa am fwyd/dillad ac yn y blaen
- Cefnogi'r unigolion i drin eu materion personol e.e. agor a darllen post, mynd i'r banc, talu biliau ac yn y blaen
- Bod yn gwmni i'r unigolyn, gan siarad a gwrando arnynt am eu hobïau a'u diddordebau
AR ÔL DARLLEN YR UCHOD
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Gynorthwyydd Personol?
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn gynorthwyydd personol bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb ar wefan Bwrdeistref Cyngor Sirol Blaenau Gwent. Caiff eich manylion wedyn eu cadw ar ffeil a'u hanfon at ddarpar gyflogwyr (unigolyn) iddynt eu hystyried fel a phan mae angen.
Pan ddaw cyfle o waith ar gael, bydd y Tîm Taliadau Uniongyrchol yn cysylltu â chi i ganfod os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i'r unigolyn; byddant yn esbonio'r math o dasgau y disgwylid i chi eu gwneud, y nifer o oriau i gael eu gweithio bob wythnos, a'r dyddiau a'r amserau ac yn y blaen.
Os ydych yn cadarnhau y byddech yn hoffi cael eich ystyried ar gyfer y swydd, yna cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad lle caiff manylion y swydd, y tâl a'r oriau gweithio wythnosol ac yn y blaen eu trafod yn fwy manwl. Os llwyddwch i gael gynnig swydd cynorthwyydd personol bydd hyn yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gwiriadau tystlythyrau a gwiriad cymhwyster i weithio yn y Deyrnas Unedig ac yn y blaen.
Os ydych, am unrhyw reswm, yn cael problemau wrth gwblhau'r ffurflen gofrestru ar-lein, cwblhewch y ffurflen gofrestru (dogfen air) yn lle hynny ac e-bostio'r ffurflen wedi'i llenwi at y tîm taliadau uniongyrchol: DirectPayments@blaenau-gwent.gov.uk
Cyfleoedd Gwaith
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gwswllt
Tîm Taliadau Uniongyrchol
Ffôn: 01495 369624
E-bost: DirectPayments@blaenau-gwent.gov.uk