Rhyddhad ar y Dreth Gyngor ar gyfer Pobl syn Gadael Gofal

Mae plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn hytrach na'u rhieni ymhlith y grwpiau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Mae cyngor blaenau gwent wedi penderfynu, o 1af apri1 2018, gael cymorth i bobl sy'n gadael gofal hyd at 25 oed.

Bydd unrhyw Ryddhad ar y Dreth Gyngor a ddyfernir yn gorffen ar ddyddiad pen-blwydd yr ymgeiswyr yn 25ain.

Pan fo'r unigolyn sy'n gadael gofal yn unig breswylydd mewn annedd, neu ar y cyd ac yn atebol ar y cyd ac yn unigol gyda rhywun arall sy’n gadael gofal, bydd atebolrwydd y dreth gyngor ar yr annedd yn cael ei ostwng i ddim.

Pan fo'r sawl sy'n gadael gofal yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y dreth gyngor ar yr annedd, gyda pherson nad yw'n gadael gofal, bydd gostyngiad o 25% yn berthnasol i atebolrwydd y dreth gyngor ar yr annedd.

Cysylltwch ag Adran y Dreth Gyngor am unrhyw gymorth pellach 01495 355212  e-bost: revenuescustomerservices@blaenau-gwent.gov.uk