Gofal Cymunedol

Beth yw gofal yn y gymuned?

Mae Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 yn nodi sut y dylai adrannau Gwasanaeth Cymdeithasol ddarparu gofal.  Yn gynyddol mae hyn mewn partneriaeth gyda gwasanaethau iechyd megis meddygon teulu, nyrsys ardal a staff therapi.  Mae gwasanaethau Gofal Canolraddol a all olygu nad yw pobl yn mynd i’r ysbyty a’u helpu i ddychwelyd i’w cartrefi eu hunain yn llawer cynt gyda help os oes angen yn rhan bwysig o hyn.

Mae’r Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol yn cynnwys pobl sydd   

  • ag anabledd neu amhariad synhwyraidd;
  • â gwaeledd cronig neu yn derfynol wael;
  • yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol;
  • dros 65 oed gydag unrhyw un o’r uchod.          

Anelwn helpu ein defnyddwyr gwasanaeth i fyw bywyd mor annibynnol a chrwn ag sydd modd yn eu cartrefi ein hunain.  Mae’n hanfodol i ni ystyried anghenion gofalwyr.  Rydym hefyd yn anelu i ddarparu gwasanaethau mor deg ac mor gyfartal ag sydd modd, gan roi ystyriaeth i anghenion neilltuol.

Beth all gwasanaethau cymdeithasol wneud?

Mae gan Reolwyr Gofal a gyflogir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fynediad i amrediad eang o wybodaeth a gwasanaethau, a gall unrhyw un ohonynt fod yn addas ar gyfer darpar ddefnyddwyr unigol.  Mae anghenion pawb yn wahanol felly anelwn weithio gyda phob person i gytuno ar eu hanghenion a sut y medrent gael eu diwallu.

Beth fedrai fod mewn pecyn gofal?

Medrai hyn fod ar wedd gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol, asiantaethau annibynnol neu daliadau uniongyrchol a fydd yn eich helpu i ddewis eich gofalwyr eich hun.

  • Medrai Gofal Cartref roi cymorth gyda thasgau nad ydych yn medru ymdopi â hwy neu yn ei chael yn anodd eu gwneud ar ben eich hun.
  • Mae Pryd ar Glyd yn anelu i gyflawni pryd safon uchel a maethlon ar amser addas am bris rhesymol.
  • Mae Addasiadau i’ch Cartref (e.e. ramp) ac Offer Byw Bob Dydd (ee cymhorthion ymolchi) ar gael i’ch cynorthwyo.  Asesir ar eu cyfer gan Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol a gyflogir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Gall Canolfannau Dydd roi cefnogaeth hanfodol, cwmni ac efallai gyfle i ddatblygu diddordebau newydd.
  • Medrir trefnu Gofal Seibiant.  Er enghraifft, medrech dreulio wythnos mewn cartref preswyl fel y gall y person sy’n gofalu amdanoch fynd ar wyliau.
  • Medrai Nyrsio Ardal olygu aros am gyfnod byrrach yn yr ysbyty drwy ddarparu gofal nyrsio pan ddewch adref.
  • Mae Taliadau Uniongyrchol yn ffordd arall o dderbyn help.  Yn lle’r gwasanaethau eu hunain, mae hwn yn swm a gytunwyd o arian i’ch galluogi i brynu eich gofal eich hun.  Mae’n seiliedig ar yr anghenion a ddynodwyd yn eich asesiad.  Darperir help i’ch galluogi i gyflogi eich gofalwyr eich hun.  Penderfynwch chi pa fath o ofal sydd gennych a phwy sy’n ei ddarparu, drwy gyflogi Cynorthwy-ydd Personol.  Mae taflen ar wahân am Daliadau Uniongyrchol.

Mae’r rhai yn ychydig o enghreifftiau, mae’r help y medrwch ei dderbyn yn dibynnu ar beth yw’ch anghenion.

Pwy sydd â hawl i’r gwasanaethau hyn?

Y bobl sy’n derbyn y gwasanaethau fydd y rhai sydd yn yr angen mwyaf ac mae gan bob gwasanaeth ffordd o fesur hyn. Pan gysylltwch â ni, medrwn esbonio os ydych yn debygol o fod yn gymwys.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn angen peth gwybodaeth syml amdanoch chi a’ch sefyllfa.  Bydd hyn yn ein helpu i asesu’r math o gymorth y medrwch fod ei angen.  Os oes angen, medrwn wedyn drefnu asesiad i ddynodi eich anghenion ac awgrymu pecyn o ofal fydd yn anelu i ateb yr anghenion hynny.  Medrai Rheolwr Gofal ymweld â chi i wneud hyn a medrai gynnwys pobl eraill medrai’ch meddyg.  Os oes rhywun yn edrych ar eich ôl, gallant hwythau fod ag anghenion yr hoffem i ni eu helpu â hwy.

Cyfrinachedd

Cedwir unrhyw wybodaeth a geir gennych yn hollol gyfrinachol ac mae gennych hawl i edrych ar hyn ar unrhyw amser.

A oes gennyf lais yn yr hyn rwy’n ei dderbyn?

Oes, rhoddir ystyriaeth i’ch barn ar bob cam ac rydym hefyd yn eich annog fel defnyddiwr gwasanaeth a’ch gofalydd i gymryd rhan wrth gynllunio gwasanaethau.  Byddai gennym ddiddordeb cael eich barn am ein gwasanaethau a chlywed am unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer eu gwella.

Ein nod yw helpu.  Fodd bynnag, os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth a ddarparwn ac eisiau gwneud ymholiadau, mae gennych hawl i wneud hyn.  Mae manylion llawn ar sut i ddefnyddio gweithdrefn gwynion yr Adran ar gael yn ein taflen cwynion.

Fydd yn rhaid i mi dalu?

Gall fod yn rhaid talu am rai o’r gwasanaethau a ddarperir.  Caiff y swm y bydd angen i chi ei dalu ei benderfynu gan asesiad o’ch amgylchiadau ariannol yn ogystal ag edrych ar ba fuddion ariannol y medrwch fod â hawl iddynt.  Gall eich Rheolydd Gofal esbonio hyn i chi.

Medrwn ddarparu cyngor ar y gwasanaethau sydd ar gael sy’n cynnwys:        

  • Gan Gwasanaethau Cymdeithasol: gofal cartref, pryd ar glyd, cyfarpar byw bob dydd, gofal preswyl, gofal dydd, gofal seibiant, pasiau bws, teleffonau, bathodynnau car, therapi galwedigaethol yn y gymuned, help ar broblemau personol, teleofal a Thaliadau Uniongyrchol.
  • Gan yr Awdurdod Iechyd: nyrsio ardal ac yn y gymuned, ffisiotherapi yn y gymuned, dewis offer nyrsio/meddygol.
  • Gan yr Adran Tai a Chymdeithasau Tai: tai gwarchod, addasiadau i’ch eiddo.
  • Gan Dimau Gofal Iechyd Sylfaenol: ciropodeg, awdioleg (cymhorthion a phrofion clyw).
  • Gan y Sector Annibynnol (Gwirfoddol a Phreifat): grwpiau hunangymorth a chefnogaeth, gofal preswyl a nyrsio.

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB