Beth yw gofal yn y gymuned?
Mae Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 yn nodi sut y dylai adrannau Gwasanaeth Cymdeithasol ddarparu gofal. Yn gynyddol mae hyn mewn partneriaeth gyda gwasanaethau iechyd megis meddygon teulu, nyrsys ardal a staff therapi. Mae gwasanaethau Gofal Canolraddol a all olygu nad yw pobl yn mynd i’r ysbyty a’u helpu i ddychwelyd i’w cartrefi eu hunain yn llawer cynt gyda help os oes angen yn rhan bwysig o hyn.
Mae’r Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol yn cynnwys pobl sydd
- ag anabledd neu amhariad synhwyraidd;
- â gwaeledd cronig neu yn derfynol wael;
- yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol;
- dros 65 oed gydag unrhyw un o’r uchod.
Anelwn helpu ein defnyddwyr gwasanaeth i fyw bywyd mor annibynnol a chrwn ag sydd modd yn eu cartrefi ein hunain. Mae’n hanfodol i ni ystyried anghenion gofalwyr. Rydym hefyd yn anelu i ddarparu gwasanaethau mor deg ac mor gyfartal ag sydd modd, gan roi ystyriaeth i anghenion neilltuol.
Beth all gwasanaethau cymdeithasol wneud?
Mae gan Reolwyr Gofal a gyflogir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fynediad i amrediad eang o wybodaeth a gwasanaethau, a gall unrhyw un ohonynt fod yn addas ar gyfer darpar ddefnyddwyr unigol. Mae anghenion pawb yn wahanol felly anelwn weithio gyda phob person i gytuno ar eu hanghenion a sut y medrent gael eu diwallu.
Beth fedrai fod mewn pecyn gofal?
Medrai hyn fod ar wedd gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol, asiantaethau annibynnol neu daliadau uniongyrchol a fydd yn eich helpu i ddewis eich gofalwyr eich hun.
- Medrai Gofal Cartref roi cymorth gyda thasgau nad ydych yn medru ymdopi â hwy neu yn ei chael yn anodd eu gwneud ar ben eich hun.
- Mae Pryd ar Glyd yn anelu i gyflawni pryd safon uchel a maethlon ar amser addas am bris rhesymol.
- Mae Addasiadau i’ch Cartref (e.e. ramp) ac Offer Byw Bob Dydd (ee cymhorthion ymolchi) ar gael i’ch cynorthwyo. Asesir ar eu cyfer gan Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol a gyflogir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
- Gall Canolfannau Dydd roi cefnogaeth hanfodol, cwmni ac efallai gyfle i ddatblygu diddordebau newydd.
- Medrir trefnu Gofal Seibiant. Er enghraifft, medrech dreulio wythnos mewn cartref preswyl fel y gall y person sy’n gofalu amdanoch fynd ar wyliau.
- Medrai Nyrsio Ardal olygu aros am gyfnod byrrach yn yr ysbyty drwy ddarparu gofal nyrsio pan ddewch adref.
- Mae Taliadau Uniongyrchol yn ffordd arall o dderbyn help. Yn lle’r gwasanaethau eu hunain, mae hwn yn swm a gytunwyd o arian i’ch galluogi i brynu eich gofal eich hun. Mae’n seiliedig ar yr anghenion a ddynodwyd yn eich asesiad. Darperir help i’ch galluogi i gyflogi eich gofalwyr eich hun. Penderfynwch chi pa fath o ofal sydd gennych a phwy sy’n ei ddarparu, drwy gyflogi Cynorthwy-ydd Personol. Mae taflen ar wahân am Daliadau Uniongyrchol.
Mae’r rhai yn ychydig o enghreifftiau, mae’r help y medrwch ei dderbyn yn dibynnu ar beth yw’ch anghenion.
Pwy sydd â hawl i’r gwasanaethau hyn?
Y bobl sy’n derbyn y gwasanaethau fydd y rhai sydd yn yr angen mwyaf ac mae gan bob gwasanaeth ffordd o fesur hyn. Pan gysylltwch â ni, medrwn esbonio os ydych yn debygol o fod yn gymwys.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Byddwn angen peth gwybodaeth syml amdanoch chi a’ch sefyllfa. Bydd hyn yn ein helpu i asesu’r math o gymorth y medrwch fod ei angen. Os oes angen, medrwn wedyn drefnu asesiad i ddynodi eich anghenion ac awgrymu pecyn o ofal fydd yn anelu i ateb yr anghenion hynny. Medrai Rheolwr Gofal ymweld â chi i wneud hyn a medrai gynnwys pobl eraill medrai’ch meddyg. Os oes rhywun yn edrych ar eich ôl, gallant hwythau fod ag anghenion yr hoffem i ni eu helpu â hwy.
Cyfrinachedd
Cedwir unrhyw wybodaeth a geir gennych yn hollol gyfrinachol ac mae gennych hawl i edrych ar hyn ar unrhyw amser.
A oes gennyf lais yn yr hyn rwy’n ei dderbyn?
Oes, rhoddir ystyriaeth i’ch barn ar bob cam ac rydym hefyd yn eich annog fel defnyddiwr gwasanaeth a’ch gofalydd i gymryd rhan wrth gynllunio gwasanaethau. Byddai gennym ddiddordeb cael eich barn am ein gwasanaethau a chlywed am unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer eu gwella.
Ein nod yw helpu. Fodd bynnag, os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth a ddarparwn ac eisiau gwneud ymholiadau, mae gennych hawl i wneud hyn. Mae manylion llawn ar sut i ddefnyddio gweithdrefn gwynion yr Adran ar gael yn ein taflen cwynion.
Fydd yn rhaid i mi dalu?
Gall fod yn rhaid talu am rai o’r gwasanaethau a ddarperir. Caiff y swm y bydd angen i chi ei dalu ei benderfynu gan asesiad o’ch amgylchiadau ariannol yn ogystal ag edrych ar ba fuddion ariannol y medrwch fod â hawl iddynt. Gall eich Rheolydd Gofal esbonio hyn i chi.
Medrwn ddarparu cyngor ar y gwasanaethau sydd ar gael sy’n cynnwys:
- Gan Gwasanaethau Cymdeithasol: gofal cartref, pryd ar glyd, cyfarpar byw bob dydd, gofal preswyl, gofal dydd, gofal seibiant, pasiau bws, teleffonau, bathodynnau car, therapi galwedigaethol yn y gymuned, help ar broblemau personol, teleofal a Thaliadau Uniongyrchol.
- Gan yr Awdurdod Iechyd: nyrsio ardal ac yn y gymuned, ffisiotherapi yn y gymuned, dewis offer nyrsio/meddygol.
- Gan yr Adran Tai a Chymdeithasau Tai: tai gwarchod, addasiadau i’ch eiddo.
- Gan Dimau Gofal Iechyd Sylfaenol: ciropodeg, awdioleg (cymhorthion a phrofion clyw).
- Gan y Sector Annibynnol (Gwirfoddol a Phreifat): grwpiau hunangymorth a chefnogaeth, gofal preswyl a nyrsio.
Gwybodaeth Gyswllt
I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:
- person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB