Cymorth Eiriolaeth yng Ngwent

Mae eiriolaeth yn un ffordd o gynorthwyo pobl i fynegi'r hyn maen nhw ei eisiau o ran cefnogaeth a gwasanaethau, ac i ystyried hyn pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud sy'n effeithio arnyn nhw. Mae gwasanaethau eirioli yno i gefnogi dinasyddion gydag ystod eang o faterion, gan gynnwys cymryd rhan mewn prosesau gwasanaethau cymdeithasol. Mae eiriolwyr yn sicrhau bod barn, dymuniadau a theimladau unigolion yn cael eu clywed gan roi mwy o lais, dewis a rheolaeth iddynt yn y prosesau gwneud penderfyniadau.

Cafodd llinell gymorth GATA (Gwent Access to Advocacy) a ariennir drwy nawdd y Gronfa Gofal Integredig, ei datblygu i ddarparu un pwynt mynediad am ddim i gymorth eiriolaeth i ddinasyddion a gweithwyr gofal proffesiynol yng Ngwent. Mae cynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi'n llawn yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ac yn gwneud atgyfeiriadau priodol at wasanaethau eirioli i oedolion ledled rhanbarth Gwent.

Mae’r llinell gymorth rhad ac am ddim ar gael rhwng 10am-3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0808 801 0566.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan:
www.gata.cymru