Ynglŷn â’r cynllun

Mae’r cynllun parcio bathodyn glas ar gyfer yr anabl yn darparu amrediad cenedlaethol o gonsesiynau parcio i helpu’r sawl ag anabledd parhaol neu sylweddol i deithio’n annibynnol naill ai fel gyrrwr neu deithiwr, trwy eu galluogi i barcio yn agos at ddiwedd eu taith.

Pwy sy’n gallu cael bathodyn glas?

Mae unrhyw dros ddwy flwydd oed ag anabledd parhaol neu sylweddol sy’n effeithio ar eu symudedd yn gallu ymgeisio am fathodyn glas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu taflen o’r enw Sut ydw i’n cael Bathodyn Glas? Canllaw i Ymgeiswyr yng Nghymru sy’n esbonio pwy sy’n gymwys am fathodyn a gwirydd cymhwysedd am Fathodyn Glas ar-lein.

Gwybodaeth Gyswllt

C2BG
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Adran Bathodyn GlasY Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6DN