Rôl therapydd galwedigaethol cymunedol
Mae Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol yma i weithio gyda chi, i'ch helpu i fod mor annibynnol ag sydd modd, am mor hir ag sydd modd. Gallwn roi:
- Cyngor ar weithgareddau bob dydd megis gwisgo, mynd i mewn ac allan o'r bath, eistedd lawr a chodi o gadair ac yn y blaen.
- Rhoi cymorth a chyngor ymarferol i ofalwyr i'w galluogi i barhau i ofalu am unigolion yn ddiogel, o fewn amgylchedd eu cartref.
Er mwyn eich helpu i fod mor annibynnol ag sydd modd, lle'n briodol, byddwn yn gweithio gydag eraill e.e. gweithwyr iechyd proffesiynol, swyddogion tai, asiantaethau gofal a gweithwyr cymdeithasol.
Beth mae therapyddion galwedigaethol cymunedol yn ei ddarparu?
Byddwn yn ymweld â chi yn eich cartref eich hun ac yn siarad gyda chi, eich teulu /neu eich gofalwr neu ofalwyr am sut y gallwn eich helpu i oresgyn rhai o'r anawsterau yr ydych yn eu profi.
Byddwn yn gweithio gyda chi i ganfod yr hyn y gallwch ei wneud; sut y gallwn eich helpu i un ai wella yn y pethau a gewch yn anodd neu gael gymorth neu offer fydd hefyd yn eich helpu.
I sicrhau eich bod yn derbyn asesiad cyflawn o'ch anghenion, gallwn fod angen peth gwybodaeth am eich cyflwr meddygol a, gyda'ch caniatad chi, gall fod angen i ni gysylltu â'ch Meddyg Teulu neu Ymgynghorydd.
Gallwn ddarparu unrhyw un o'r dilynol:
- Cyngor a gwybodaeth ar ddulliau eraill o wneud tasgau
- Offer i'w osod yn eich cartref eich hun
- a chyfarwyddyd ar sut i'w ddefnyddio.
- Cefnogaeth ar wedd argymhellion i'r Adran Tai berthnasol am addasiadau i'ch cartref (e.e. rampiau i roi mynediad cadair olwyn).
Y system atgyfeirio
Gall unrhyw un wneud atgyfeiriad i'r Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol drwy gysylltu â'r system ddyletswydd ar C2BG ar (01495) 315700.
Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros am asesiad therapi galwedigaethol?
Er mwyn trin y nifer uchel o geisiadau am asesiadau Therapi Galwedigaethol, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i'r ceisiadau hynny sydd â'r angen mwyaf cymhleth a brys am help.
Mae'n bwysig fod y person sy'n gwneud yr atgyfeiriad yn rhoi cymaint o wybodaeth ag sydd modd i'r swyddog dyletswydd. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn ymateb priodol, o fewn amserlen a gytunwyd yn ôl eich anghenion.
Pan dderbyniwn y cais, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich anawsterau a threfnu ymweliad atoch os yn briodol.
Gwybodaeth Gyswllt
I gael gwybodaeth, cyngor neu gymorth, neu i wneud atgyfeiriad neu roi adroddiad am brydeorn yng nghyswllt:
- person 18 oed neu drosodd cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
E-bost : DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
Ar gyfer ymholiadau gwybodaeth gyffredinol:
E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk
Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB
Ffôn: 01495 354680
Ffacs: 01495 355285