Trwsiwch eich eitemau sydd wedi torri
Peidiwch â thaflu eitemau sydd wedi torri ymaith. Gellir trwsio llawer ohonynt, sy'n eich helpu i arbed arian a lleihau gwastraff.
Ymunwch ag un o'r tri Chaffi Trwsio sy'n gweithredu ar draws Blaenau Gwent. Dewch â'ch eitem sydd wedi torri neu wedi'i difrodi gyda chi, a bydd ein gwirfoddolwyr yn gwneud eu gorau i'w thrwsio am ddim. Tra byddwch yn aros, mwynhewch baned o de neu goffi, cwrdd ag aelodau eraill o'ch cymuned, a dysgu sgiliau trwsio newydd. Mae Caffis Trwsio yn eich helpu i drwsio eitemau sydd wedi torri fel y gallwch eu defnyddio eto yn hytrach na'u taflu ymaith.
Caffi Trwsio EVI
Sefydliad Glynebwy, Church Street, Glynebwy, NP23 6BE. 2:00yp - 4:00yp, trydydd dydd Llun o bob mis.
Mae Caffi Trwsio EVI yn helpu pobl i drwsio eitemau cartref. Dewch ag eitemau trydanol bach, nwyddau cartref, teganau, dillad neu eitemau eraill sydd angen eu trwsio. Bydd ein gwirfoddolwyr yn gwneud eu gorau i helpu. Os na ellir trwsio'ch eitem ar y diwrnod, efallai y gallant roi cyngor i chi. Gall trwsio eitemau eich helpu i arbed arian ac osgoi taflu pethau ymaith.
https://evi.cymru/whats-on/evi-repair-cafe/
Caffi Trwsio Rasa
Canolfan Gymunedol Adnoddau Rasa, School Road, Rasa, NP23 5PP
10:00yb - 12:00yp
Pedwerydd Dydd Llun o bob mis
Dewch ag eitemau sydd wedi torri i'r sesiwn trwsio gymunedol hon. Bydd gwirfoddolwyr yn gwneud eu gorau i'ch helpu i'w trwsio. Gallwch arbed arian, defnyddio eitemau am gyfnod hirach, a chwrdd â phobl o'ch ardal leol.
https://www.rassauresourcecommunitycentre.co.uk/
Caffi Trwsio Stocktonville
Canolfan Gymunedol Stocktonville, Gelli Road, Tredegar, NP22 3RD
10:00yb - 12:00yp
Dydd Gwener cyntaf pob mis
Dewch â'ch eitemau sydd wedi torri i'r Caffi Trwsio. Bydd ein gwirfoddolwyr yn gweld a allant eu trwsio. Os na allant drwsio eitem, efallai y gallant roi cyngor i chi. Gall trwsio eitemau eich helpu i arbed arian ac atal eitemau da rhag cael eu taflu ymaith.