Ein Siopau Ailddefnyddio

Siop Ailddefnyddio The Den

Wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ailgylchu Roseheyworth:

Parc Busnes Roseheyworth

Ffordd Roseheyworth, Abertyleri, NP13 1SP

Mae The Den, sy'n cael ei redeg gan Wastesavers, yn rhoi ail fywyd i eitemau diangen drwy eu gwerthu am brisiau fforddiadwy.

Oriau Agor:

9:30yb i 4:30yp, pum diwrnod yr wythnos.

Ar gau ar ddydd Mawrth a dydd Mercher.

Siop Ailddefnyddio Y Den Mawr

Mae Y Den Mawr wedi'i leoli yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yng Nglynebwy, ac fe'i rheolir gan Wastesavers. Gallwch brynu eitemau ail-law o ansawdd da am brisiau isel.

Oriau Agor:

9:30yb i 4:30yp, pum diwrnod yr wythnos.

Ar gau ar ddydd Iau a dydd Gwener.

Cyfrannu, Ailddefnyddio, Arbed

Os byddwch yn ymweld ag un o'n canolfannau ailgylchu, gallwch gyfrannu eitemau sy'n lân, yn ddiogel ac mewn cyflwr da. Mae staff a gwirfoddolwyr yn archwilio, glanhau a pharatoi eitemau addas yn ofalus i'w hailwerthu.

Mae'r ddwy siop yn cynnig amrywiaeth o eitemau, gan gynnwys:

  • Llyfrau
  • Teganau
  • Beiciau
  • Crochenwaith ac offer ceginAddurniadau
  • DVDs
  • Eitemau dodrefn bach
  • Nwyddau cartref
  • A llawer mwy

Pan fyddwch yn cyfrannu neu'n prynu eitemau yn ein siopau ailddefnyddio, rydych yn helpu i gadw eitemau y gellir eu hailddefnyddio allan o'r bin, a gallwch arbed arian hefyd.

Ewch i The Den neu Y Den Mawr a darganfod manteision ailddefnyddio.

Facebook The Den 

Angen help?

Os oes gennych gwestiwn am Siop Ailddefnyddio The Den, siaradwch ag aelod o'r staff pan fyddwch yn ymweld â'r ganolfan ailgylchu.