Mae ailgylchu yn helpu i leihau gwastraff ac yn diogelu'r amgylchedd.
Defnyddiwch y dudalen hon i ddarganfod:
- beth gallwch ei ailgylchu
- beth na allwch ei ailgylchu
- sut i ailgylchu batris
- i ble mae eich deunyddiau ailgylchu yn mynd
- rheolau ailgylchu
Gwirio eich diwrnod casglu
Cesglir deunyddiau ailgylchu bob wythnos.
Beth gallwch ei ailgylchu
Gallwch ailgylchu llawer o eitemau cartref drwy'r casgliad wythnosol.
Am wybodaeth am y deunyddiau rydym yn eu casglu a sut i'w paratoi ar gyfer eu casglu, gweler:
Canllaw ar gyfer casglu deunyddiau ailgylchu a gwastraff
Ailgylchu batris
Rhowch fatris cartref mewn bag gwyn y gellir ei ailddefnyddio.
Gallwch gael bag ar gyfer batris o'ch Canolfan Gymunedol leol.
Mae Canolfannau Cymunedol wedi'u lleoli mewn llyfrgelloedd.
Dod o hyd i’r Ganolfan Gymunedol agosaf atoch chi
Eitemau na allwn eu casglu fel rhan o'r casgliad ailgylchu wythnosol
Ni ellir casglu rhai eitemau drwy'r gwasanaeth ailgylchu wythnosol.
Mae hyn yn cynnwys:
- ffilm a deunydd lapio plastig
- pecynnau creision
- papurau lapio melysion
- gwydr wedi torri
- cwiltiau a gobenyddion
- tecstilau gwlyb neu fudr iawn
- eitemau plastig mawr, fel dodrefn gardd
- eitemau metel mawr, fel padellau ffrio a sosbenni
Ewch ag eitemau addas i ganolfan ailgylchu lle bo modd.
Eitemau sy'n anodd eu hailgylchu
Gellir ailgylchu rhai eitemau drwy gynlluniau arbenigol.
Mae Terracycle yn eich helpu i ailgylchu eitemau na ellir eu rhoi yn eich casgliad ailgylchu arferol.
Dod o hyd i gynllun ailgylchu Terracycle
Beth sy'n digwydd i'ch deunyddiau ailgylchu
Rydym yn casglu deunyddiau ailgylchu o gartrefi a chanolfannau ailgylchu ar draws Blaenau Gwent.
Ar ôl eu casglu, anfonir y deunyddiau i gael eu prosesu eto fel y gellir eu defnyddio unwaith eto.
Darganfod i ble mae eich deunyddiau ailgylchu yn mynd
Rheolau ailgylchu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwahanu eich deunyddiau ailgylchu yn gywir cyn iddynt gael eu casglu.
Os byddwch yn parhau i roi deunyddiau ailgylchu yn eich bagiau du neu yn eich bin, efallai y byddwn yn cymryd camau gweithredu.
Gall hyn gynnwys cyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig. Am wybodaeth am orfodi rheolau gwastraff, gweler:
Angen help?
Os oes angen help arnoch gydag ailgylchu, anfonwch e-bost at: