Gwneud cais am Gasgliad â Chymorth
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os na allwch roi eich gwastraff neu ailgylchu allan i'w gasglu, ac os nad oes neb arall i'ch helpu.
Pwy all ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gallwch fod yn gymwys:
- Os oes gennych symudedd cyfyngedig
- Mae eich cyflwr yn un dros dro neu'n un parhaol
- Does dim person corfforol abl yn byw yn eich cyfeiriad sy'n gallu helpu i symud eich gwastraff neu ailgylchu
Beth yw casgliad â chymorth?
Os oes gennych gasgliad â chymorth, byddwn yn casglu eich gwastraff a'ch deunyddiau ailgylchu o fan penodol ar eich eiddo.
Byddwn yn cytuno ar y fan hon gyda chi.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys:
- Ailgylchu
- Gwastraff bwyd
- Biniau a bagiau du
- Casgliadau gwastraff hylendid
Nid yw'r gwasanaeth hwn yn cynnwys:
- Casgliadau gwastraff gardd
- Casgliadau eitemau gwastraff swmpus
Cyn i chi wneud cais
Byddwn yn gofyn am:
- Y rheswm pam mae angen cymorth arnoch
- Manylion pobl eraill sy'n byw yn eich cyfeiriad
- Pam na all neb arall symud eich gwastraff neu ailgylchu
- Gyda pha wasanaethau casglu y mae angen cymorth arnoch
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwn yn adolygu eich cais.
Bydd aelod o dîm y Gwasanaethau Gwastraff yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gallwn:
- Gysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth
- Ymweld â'ch eiddo
- Cytuno ar fan casglu addas
- Cynnal asesiad diogelwch os oes angen
Os byddwn yn cymeradwyo eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i'n timau casglu ble i gasglu eich gwastraff a'ch deunyddiau ailgylchu.
Casgliadau dros dro â chymorth
Gallwch wneud cais am gymorth dros dro os ydych yn gwella ar ôl:
- Salwch
- Anaf
- Llawdriniaeth
Byddwn yn cytuno ar hyd y cyfnod y bydd angen y gwasanaeth arnoch.
Os bydd angen cymorth arnoch o hyd ar ôl y dyddiad gorffen y cytunwyd arno, bydd angen i chi wneud cais eto.
Gwneud cais am gasgliad â chymorth neu ei ganslo
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i: