Dim gwastraff ochr os gwelwch yn dda

I helpu annog a chynyddu ailgylchu o fewn Blaenau Gwent, mae'r Awdurdod yn gweithredu gwasanaeth casglu sbwriel bob tair wythnos. I ganfod eich diwrnod casglu ewch i FyNgwasanaethu.
 
Oherwydd costau cynyddol gwaredu gwastraff a thargedau statudol llym gan Lywodraeth Cymru ar ailgylchu, ni fyddwn mwyach yn casglu bagiau ychwanegol a gaiff eu gadael wrth ymyl eich bin (gwastraff ochr). Caiff unrhyw wastraff/bagiau dros ben eu gadael yn y man casglu. Caniateir uchafswm o bedwar bag bin du llawn i breswylwyr na allant gymryd bin olwyn.

Os oes gennych eitemau mawr i'w gwaredu, gellir mynd â nhw i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref neu gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus (manylion ar dudalennau eraill ar y wefan). Rydym hefyd yn darparu casgliad ailgylchu wythnosol (yn cynnwys gwasanaeth wythnosol casglu cewynnau/glanweithdra) fydd yn helpu i sicrhau fod gennych ddigon o le yn eich bin olwyn du.

Beth sy'n digwydd os ydw i yn rhoi gwastraff ochr ychwanegol ar gyfer ei gasglu?


Bydd y cyngor yn monitro casgliadau ac yn dweud wrth breswylwyr sut y gallant ailgylchu mwy a gostwng faint o wastraff gaiff ei roi allan i'w daflu. Os yw popeth arall yn methu, lle mae preswylwyr yn gyson yn rhoi gormod o sbwriel a heb gymryd cyngor ar ailgylchu, yna BYDD y Cyngor yn cymryd camau gorfodi. Fe FYDDWN yn rhoi dirwy o £100 os ydych yn dal i roi gormod o wastraff bag du allan.

Cadwch yr eitemau hyn allan o'ch bagiau sbwriel du


•Bwyd
•Cardfwrdd
•Eitemau trydanol
•Paent
•Caniau
•Tecstilau
•Ffoil
•Olew
•Metal sgrap
•Llyfrau
•Plastig
•Hen olew
•Rwbel
•Cemegau
•Papur
•Cartonau
•Pren
•Gwastraff gardd
•Cewynnau
•Batris

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Gwastraff ac Ailgylchu
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk