Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i archebu:
- Bocsys ailgylchu â chaeadau
- Sachau ailgylchu
- Cynwysyddion bwyd
- Sachau ar gyfer gwastraff gwyrdd
- Biniau olwynion du
Rhaid i Warden Gwastraff ymweld â'ch eiddo cyn y gallwn ddanfon bin olwynion du newydd neu un i gymryd lle un presennol. Nid ydym yn darparu ail fin olwynion du.
Ar ôl i chi osod archeb
- Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost.
- Byddwn yn danfon eich eitemau ar y dyddiad dosbarthu nesaf sydd ar gael yn eich ardal.
Ailgylchu batris gartref
Gallwch gasglu bagiau ar gyfer batris o'ch Canolfan Gymunedol leol.
https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/blaenau-gwent-community-hubs/
Angen help?
E-bostiwch: info@blaenau-gwent.gov.uk
