Gall yr Awdurdod roi hysbysiad cosb sefydlog i aelwydydd sy'n parhau i roi eitemau y gellid eu hailgylchu yn eu biniau a bagiau du. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i'r preswylydd dalu cosb sefydlog o £100 neu ymddangos yn y llys. Nid ydym eisiau rhoi'r cosbau sefydlog yma, ond nid yw'n deg ar y gymuned gyfan os yw ychydig o gartrefi yn parhau i beidio ailgylchu popeth a allant, pan mae pawb arall yn cymryd rhan. Ymunwch â'ch cymdogion i wneud hyn i'ch cymuned a gwneud yn siŵr eich bod yn 'cadw lan gyda'r Joneses'.