Ein Mynwentydd

Y Fynwent 

Mae holl fynwentydd Blaenau Gwent yn agored a chaiff claddedigaethau eu cynnal yn rheolaidd. Gall gweithgareddau hefyd fod yn digwydd e.e. gallai seiri maen fod yn gweithio ar fedd yn agos at eich bedd teuluol. Hefyd gallai contractwyr fod yn trwsio ffyrdd, glanhau gwlïau, cynnal a chadw adeiladau a gwelliannau i'r fynwent. 

Rydym yn anelu bob amser i wella'r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr i bob un o'n mynwentydd. Mae'n rhaid i bob gweithgaredd megis gosod cerrig beddau, cerbiau o amgylch beddau ac yn y blaen, gael caniatâd Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd. 

Weithiau efallai y byddwch yn canfod fod y ddaear yn wlyb ac yn frwnt oherwydd y tywydd. Ymddiheurwn am hyn, fodd bynnag ymdrechwn i wella'r amodau drwy roi draeniau tir o fewn pob adran o'r fynwent. Gallech ganfod fod angen ychwanegu pridd ar wyneb bedd eich teulu i'w godi i lefel y tir o amgylch. Os yw hyn yn wir, cysylltwch â'r torrwr beddau os gwelwch yn dda  a bydd yn gwneud y gwaith drosoch. 

Weithiau gall beddi gael eu hail-agor ar gyfer claddedigaeth yn ymyl bedd eich teulu. Gwneir pob ymdrech i ostwng unrhyw ymryiad i chi a'ch teulu. Ein hunig gonsyrn yw sicrhau fod eich ymweliad i'n mynwentydd yn rhoi cymaint o gysur i chi ag sydd modd.

Cysylltwch â C2BG 01495 311556 a fydd yn hapus i'ch cynorthwyo gyda'ch ymholiad. 

Mae angen caniatâd Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ar gyfer pob gweithgaredd tebyg i osod cerrig beddau, cwrbin ac yn y blaen.

Amserau agor y Swyddfa Gwasanaethau Profedigaeth yw:

  • Dyddiau Llun - Iau -  8:30am – 4:30pm
  • Dyddiau Gwener-  8:30am – 4pm 

Mynwentydd ym Mlaenau Gwent  

  • Mynwent Cwm, Heol y Fynwent, Cwm, Glynebwy NP23 7RZ  Map
  • Mynwent Dukestown, Rhodfa'r Goron, Tredegar, NP22 4EE
  • Mynwent Glynebwy, Heol Waun-y-Pound, Glynebwy, NP23 6LE  Map
  • Mynwent Brynmawr, Heol Harcourt, Brynmawr, NP23 4TU  Map
  • Mynwent Blaenau, Heol Abertyleri, NP13 3DZ  Map
  • Mynwent Brynithel, Heol y Fynwent, Brynithel, Abertyleri, NP13 2AX  Map
  • Mynwent Cefn Golau, Cefn Golau, Tredegar NP22 3BH  

Amserau Agor Mynwentydd 

Gall cerbydau gael mynediad i fynwentydd ar yr oriau dilynol/365 diwrnod y flwyddyn.

Haf (1 Mawrth hyd 30 Medi)8.00am - 7.00pm 
Gaeaf (1 Hydref hyd 28 Chwefror)8.00am - 4.30pm 

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar fynediad cerddwyr i bob mynwent.

Cynllun Mainc Goffa

Mae’r Cyngor yn darparu cynllun trwydded i alluogi cyfrannu meinciau coffa i gael eu gosod o fewn mynwentydd

I sicrhau cysondeb yn holl fynwentydd y Cyngor dim ond 2 ddyluniad mainc cymeradwy a manyleb cynhyrchu a ganiateir i gael eu hystyried. Mae lluniau o’r dyluniadau a gymeradwywyd ar gyfer meinciau a’r fanyleb gweithgynhyrchu ar gael yma:

Enghraifft 1

Enghraifft  2 

Canfod bedd 

Mae Adran Mynwentydd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn cadw cofnodion ar gyfer y 7 mynwent yn y Fwrdeisdref Sirol, sef Blaenau, Brynithel, Brynmawr, Cefn Golau, Cwm, Dukestown a Glynebwy. 

Gallwn gynnal chwiliadau teulu ar ran aelodau'r cyhoedd. Gellir gwneud cais am chwiliad mewn ysgrifen neu drwy e-bost. 

I'n galluogi i gynnal chwiliad cywir, mae'n hanfodol rhoi enwau ac union ddyddiadau marwolaeth yr ymadawedig.

Cliciwch y ddogfen ‘Ffioedd Mynwentydd’ isod i gael mwy o wybodaeth am y ffi chwilio.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Priffyrdd

Rhif Ffôn:      01495 311556

Cyfeiriad e-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk