Mae Swyddfa Gofrestru Blaenau Gwent yn cynnig cyfle i gyplau adnewyddu eu haddunedau priodas mewn seremoni sifil.
Hysbysiad pwysig
Nid oes gan seremonïau adnewyddu addunedau priodas unrhyw effaith cyfreithiol. Ni fydd y cofrestrydd sy'n cynnal eich seremoni yn gweithredu mewn rhinwedd swyddogol hyd yn oed os yw'n gweithio fel swyddog cofrestru. Ni chaiff yr ystafelloedd a ddefnyddir yn y Swyddfa Gofrestru eu dynodi fel safleoedd priodas ar gyfer cyfnod y seremoni.
Gallwch drafod adnewyddu seremoni adnewyddu addunedau priodas drwy gysylltu â Swyddfa Gofrestru Blaenau Gwent. Mae'r Swyddfa Gofrestru yn Nhŷ Bedwellte. Canfod lleoliad, manylion parcio ac oriau agor y swyddfa gofrestru.