Polisi Diogelu Corfforaethol Blaenau Gwent

Polisi Diogelu Corfforaethol Blaenau Gwent

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sy'n byw yn y Fwrdeistref yn ddiogel ac wedi'u hamddiffyn a bod ein cyfrifoldebau statudol i ddiogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yn cael eu cyflawni'n effeithiol.

Mae'r Polisi Diogelu Corfforaethol yn nodi'r trefniadau ar gyfer diogelu ym Mlaenau Gwent a beth i'w wneud os oes gennych bryder am blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.